Band roc caled Awstralaidd a ffurfiwyd yn Sydney ym 1973 gan y brodyr Angus a Malcolm Young yw AC/DC. Er ystyrient fel arloeswyr metel trwm, mae aelodau'r band wastad wedi disgrifio eu cerddoriaeth fel "roc a rôl".
Bu nifer o newidiadau i drefniant AC/DC cyn iddynt rhyddhau eu halbwm cyntaf, High Voltage, ym 1975. Ni newidiodd yr aelodaeth tan i'r gitarydd bas Cliff Williams cymryd lle Mark Evans ym 1977. Ym 1979, recordiodd y band eu halbwm llwyddiannus iawn Highway to Hell. Bu farw'r prif ganwr a chyd-ysgrifennwr caneuon Bon Scott ar 19 Chwefror 1980, ar ôl noson o yfed trwm. Ystyriodd y band roi'r gorau iddi, ond yn fuan wedyn, cafodd Brian Johnson, cyn-ganwr Geordie ei ddewis i gymryd lle Scott. Yn hwyrach y flwyddyn honno, rhyddhaodd y band eu halbwm brig, Back in Black.
Roedd albwm nesaf y band, For Those About to Rock We Salute You, hefyd yn llwyddiannus iawn ac hwn oedd eu halbwm cyntaf i gyrraedd safle rhif-un yn yr Unol Daleithiau. Gostyngodd poblogrwydd AC/DC ar ôl i'r drymiwr Phil Rudd adael ym 1983. Parhaodd gwerthiannau recordiau isel nes i The Razors Edge gael ei ryddhau ym 1990. Dychwelodd Phil Rudd ym 1994 a chyfrannodd at yr albwm Ballbreaker, a ryddhawyd ym 1995. Rhyddhawyd Stiff Upper Lip yn 2000 a derbyniodd glod gan y beirniaid. Cyhoeddwyd albwm newydd y band, Black Ice, ym Mehefin 2008 a rhyddhawyd ar 20 Hydref 2008.
Mae AC/DC wedi gwerthu dros 200 miliwn o albymau yn fyd-eang, gan gynnwys 71 miliwn o albymau yn yr Unol Daleithiau. Amcangyfrifir i Back in Black werthu rhyw 42 miliwn o gopïau byd-eang a 22 miliwn yn yr Unol Daleithiau yn unig. Fe gynhwysir AC/DC yn bedwerydd ar restr VH1 o'r 100 Artist Roc Caled Gorau ac yn seithfed ar restr MTV o'r Bandiau Metel Caled Gorau Erioed.
Aelodau
- Brian Johnson – prif lais (1980–presennol)
- Angus Young – prif gitâr (1973–presennol)
- Malcolm Young – gitâr rythm, llais cyfeiliant (1973–presennol)
- Cliff Williams – gitâr fas, llais cyfeiliant (1977–presennol)
- Phil Rudd – drymiau, taro (1975–1983, 1994–presennol)
Cyn-aelodau
- Dave Evans – prif lais (1973–1974)
- Bon Scott – prif lais (1974–1980)
- Mark Evans – gitâr fas (1975–1977)
- Simon Wright – drymiau, taro (1983–1989)
- Chris Slade – drymiau, taro (1989–1994)
Disgyddiaeth
Albymau stiwdio
| Teitl | Rhyddhawyd |
|---|---|
| High Voltage (Awstralia) | 1975 |
| T.N.T. | 1975 |
| High Voltage (rhyngwladol) | 1976 |
| Dirty Deeds Done Dirt Cheap (Awstralia) | 1976 |
| Dirty Deeds Done Dirt Cheap (rhyngwladol) | 1976 |
| Let There Be Rock (Awstralia) | 1977 |
| Let There Be Rock (rhyngwladol) | 1977 |
| Powerage | 1978 |
| Highway to Hell | 1979 |
| Back in Black | 1980 |
| For Those About to Rock We Salute You | 1981 |
| Flick of the Switch | 1983 |
| '74 Jailbreak | 1984 |
| Fly on the Wall | 1985 |
| Who Made Who | 1986 |
| Blow Up Your Video | 1988 |
| The Razors Edge | 1990 |
| Ballbreaker | 1995 |
| Stiff Upper Lip | 2000 |
| Black Ice | 2008 |
| Rock or Bust | 2014 |
| Power Up | 2020 |
Oriel
Llyfryddiaeth
Dome, Malcolm (1982). AC/DC. Proteus Books. ISBN 0-862-76011-9
Bunton, Richard (1983). AC/DC: Hell Ain't No Bad Place to Be. Omnibus Books. ISBN 0-711-90082-5
Holmes, Tim (1986). AC/DC (Monsters of Metal). Ballantine. ISBN 0-345-33239-3
Huxley, Martin (1996). AC/DC: The World's Heaviest Rock. Lightning Source Inc.. ISBN 0-312-30220-7
Stenning, Paul (2005). AC/DC: Two Sides to Every Glory. Chrome Dreams. ISBN 1-842-40308-7
