factograf
CY

Zheng He

Zheng He

Key facts

dyddiad geni1371
dyddiad marw1433
galwedigaethfforiwr, diplomydd, morlywiwr
man geniKunming
man marwNanjing
All data from the card 8
Ganwyd
鄭和 1371 Kunming
Bu farw
1433, 1435 Nanjing
Dinasyddiaeth
Brenhinllin Ming
Galwedigaeth
fforiwr, diplomydd, morlywiwr, eunuch, teithiwr
Cyflogwr
Hongxi EmperorXuande EmperorYongle Emperor
Adnabyddus am
Treasure Voyages
Tad
Hajji Ma
Perthnasau
Sayyid Ajjal Shams al-Din Omar
Mae'r Map Kangnido yn dyddio i 1402, felly cyn i Zheng He ddechrau ar ei fordeithiau. Mae'n dangos fod y Sineaid eisoes yn berchen ar gryn dipyn o wybodaeth am weledydd pellennig.
Mae'r Map Kangnido yn dyddio i 1402, felly cyn i Zheng He ddechrau ar ei fordeithiau. Mae'n dangos fod y Sineaid eisoes yn berchen ar gryn dipyn o wybodaeth am weledydd pellennig.

Roedd Zheng He (1371–1435), neu Cheng Ho fel yr ysgrifir ei enw weithiau, yn forwr o Tsieina a fu'n gyfrifol am nifer o fordeithiau i wahanol rannau o'r byd rhwng 1405 a 1424.

Ei enw gwreiddiol oedd Ma Sanbao a ganwyd ef yn nhalaith Yunnan. Roedd yn Fwslim o ran crefydd. Pan goncrwyd Yunnan gan fyddin y frenhinllin Ming, cafodd Ma Sanbao ei gymeryd yn garcharor a'r wneud yn eunuch. Rhoddwyd yr enw Zheng He iddo yn ddiweddarach, a daeth yn gyfaill i'r Ymerawdr Yongle ac yn llynghesydd.

Aeth ar ei fordaith gyntaf yn 1405 gan alw mewn nifer o wledydd yn Ne-ddwyrain Asia. Un o'r mannau lle glaniodd oedd Semarang ar ynys Java, lle mae heddiw deml Tsieineaidd wedi ei chysegru iddo. Cynhaliwyd dathliadau yma yn 2005 i nodi chwe chan mlwyddiant ei ymweliad.

Yn y blynyddoedd nesaf bu Zheng He a'r swyddogion dan ei awdurdod yn gyfrifol am gyfres o fordeithiau, gan gyrraedd cyn belled ag India a Sri Lanca, Iran, arfordir dwyreiniol Affrica ac yn ôl pob tebyg arfordir gogleddol Awstralia. Roedd nifer fawr o longau yn hwylio gyda'i gilydd, er enghraifft yn 1405 yr oedd gan Zheng He 27,000 o ddynion mewn 317 o longau, rhai ohonynt yn llongau enfawr tua 120 medr (400 troedfedd) o hyd.

Bu farw'r Ymerawdr Yongle yn 1424 ac yn dilyn hyn bu newid polisi a daeth y mordeithiau mawr i ben. Bu farw Zheng He yn 1435.

Mae rhai awduron, er enghraifft Gavin Menzies, yn credu fod llongau Zheng He wedi cyrraedd yn llawer pellach na hyn, ei fod er enghraifft wedi cyrraedd America cyn Ferdinand Magellan a Christopher Columbus. Mae hyn yn bwnc dadleuol.

Llyfryddiaeth

  • Louise Levathes, When China Ruled the Seas: The Treasure Fleet of the Dragon Throne, 1405-1433, Oxford University Press, 1997, trade paperback, ISBN 0-19-511207-5
  • Gavin Menzies, 1421: The Year the Chinese Discovered the World, Morrow/Avon, 2003, hardcover 576 pages, ISBN 0-06-053763-9.

Read next

In 148 languages

cyAfrikaansAlemannischአማርኛaragonésالعربيةمصرىঅসমীয়াasturianuKotavaazərbaycancaتۆرکجهбашҡортсаBoarischžemaitėškaBikol Centralбеларуская (тарашкевіца)беларускаябългарскиবাংলাbrezhonegbosanskiBatak Mandailingбуряадcatalà閩東語 / Mìng-dĕ̤ng-ngṳ̄нохчийнکوردیqırımtatarcačeštinaчӑвашлаdanskDeutschZazakiΕλληνικάEnglishEsperantoespañoleestieuskaraفارسیsuomifrançaisNordfriiskfurlanFryskGaeilge贛語kriyòl gwiyannengalegoAvañe'ẽGaelgHausa客家語 / Hak-kâ-ngîעבריתFiji HindihrvatskimagyarհայերենinterlinguaBahasa IndonesiaIlokanoIdoíslenskaitaliano日本語PatoisJawaქართულიQaraqalpaqshaқазақшаYerwa Kanuri한국어kurdîkernowekLatinaLadinoLëtzebuergeschлезгиLimburgsLigurelombardlietuviųlatviešuMadhurâBasa BanyumasanMalagasyMinangkabauмакедонскиമലയാളംмонголBahasa MelayuMirandésမြန်မာဘာသာPlattdüütschनेपाल भाषाNederlandsnorsk nynorsknorskoccitanиронਪੰਜਾਬੀKapampanganpolskiPiemontèisپنجابیportuguêsRuna SimiromânătarandíneрусскийрусиньскыйScotsسنڌيsrpskohrvatski / српскохрватскиSimple Englishslovenčinaslovenščinashqipсрпски / srpskiSundasvenskaKiswahiliதமிழ்తెలుగుтоҷикӣไทยTagalogtolışiTürkçeтатарча / tatarçaукраїнськаاردوoʻzbekcha / ўзбекчаvepsän kel’Tiếng ViệtVolapükWinaray吴语хальмгმარგალურიייִדישYorùbáVahcuengh文言閩南語 / Bân-lâm-gí粵語中文

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article