Mae'r Ynysoedd Caiman yn diriogaeth dramor y Deyrnas Unedig sydd wedi ei leoli ym Môr y Caribi, mae wedi ei chyfansoddi o Caiman Fwyaf, Caiman Brac, a Caiman Bach. Mae'n ganolfan ariannol alltraeth byd-eang ac un o gyrchfannau twristiaeth deifio sgwba mwyaf blaengar y byd.
Hanes
Nid oes tystiolaeth bod pobl wedi ymsefydlu ar yr ynysoedd cyn eu "darganfod" ym 1503. Y person cyntaf y gwyddys iddo ymweld oedd Christopher Columbus, a roddodd yr n i'r ynysoedd a roddodd yr enw "Las Tortugas" i'r ynysoedd, oherwydd y nifer fawr o grwbanod a geir yno. Yn ddiweddarach, daethant yn adnabyddus fel Ynysoedd Cayman oherwydd y crocodeiliaid a geir yno.
