factograf
CY

Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol

Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol

Key facts

dechreuwyd1830
enghraifft o'r canlynolelusen, cymdeithas wyddonol, academi cenedlaethol
gwladwriaethy Deyrnas Unedig
lleolir yn yr ardal weinyddolDinas Westminster
All data from the card 6
Math
sefydliad elusennol, cymdeithas wyddonol, academi cenedlaethol, geographical society
Ardal weinyddol
Dinas Westminster
Sefydlwyd
1830
Gwlad
Lloegr
Cyfesurynnau
51.5015°N 0.1751°W
Cod post
SW7 2AR
Hen arwyddlun y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.
Hen arwyddlun y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.

Cymdeithas ddysgedig a chorff proffesiynol i ddaearyddwyr yn y Deyrnas Unedig yw'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (Saesneg: Royal Geographical Society, yn llawn Royal Geographical Society (with the Institute of British Geographers)). Sefydlwyd yn Llundain dan yr enw Geographical Society of London yn 1830, ar sail y Raleigh Travellers' Club a ffurfiwyd yn 1827. Ymgorfforwyd dan nawddogaeth frenhinol yn 1859, ac yn 1995 meddiannodd yr Institute of British Geographers. Lleolir ei phencadlys yn Ninas Westminster, ger Neuadd Frenhinol Albert. Gwobrwyir Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (FRGS) i aelodau o nod.

Yn y 19g hyrwyddwyd sawl alldaith gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol i fforio'r byd, yn enwedig yn Affrica a'r Arctig. Aeth nifer o fforwyr enwocaf Gwledydd Prydain i'r "Cyfandir Tywyll" gyda chymorth y Gymdeithas, yn eu plith David Livingstone, Syr Richard Francis Burton, John Hanning Speke, James Augustus Grant, a Joseph Thomson. Yn yr 20g hyrwyddodd y Gymdeithas deithiau i'r Antarctig a chyrchoedd ar Fynydd Everest.

Yn ogystal â chynrychioli daearyddwyr proffesiynol a threfnu ymchwil ac alldeithiau, mae'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yn hybu addysg ddaearyddol i'r cyhoedd. Cyhoeddir sawl cyfnodolyn gan y Gymdeithas, gan gynnwys Geographical Journal, Geographical Magazine, ac Area, cynhelir a chedwir llyfrgelloedd ac ystafelloedd mapiau, a darperir gwersi tirfesureg a dulliau eraill. Trefnir rhyw 150 o ddarlithoedd gan y Gymdeithas pob blwyddyn, a thrwy'r Expedition Advisory Centre hyfforddir pobl ifanc ar gyfer gyrfaoedd yn naearyddiaeth a meysydd tebyg.

Read next

In 41 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article