Traddodiad o Wica, sydd yn grefydd Neo-baganaidd, yw Wica Alecsandraidd. Sefydlwyd ef gan Alex Sanders (a elwir yn "Brenin y Gwrachod" weithiau) gyda'i wraig Maxine Sanders yn y 1960au yn y Deyrnas Unedig. Mae Wica Alecsandraidd yn debyg iawn i Wica Gardneraidd, ac ystyrir ef fel y traddodiad mwyaf hysbys yn y grefydd.
Cychwyniadau a hanes
Seilir y traddodiad yn fawr ar Wica Gardneraidd, gan y cafodd Sanders hyfforddiant ynddo a hynny i'r Radd Gyntaf. Mae hefyd yn cynnwys elfennau o ddewiniaeth seremonïol a Chabbala Hermetig, a astudiodd Sanders ar ei ben ei hun.
Daeth enw'r traddodiad o enw Alex Sanders ei hun ac o Lyfrgell Alecsandria, llyfrgell gyfrin hynafol, a oedd yn un o lyfrgelloedd y byd. Dewiswyd i ddefnyddio enw'r llyfrgell ar ôl i Sanders ei gweld fel ymgais cynnar i ddod â gwybodaeth a challineb y byd at ei gilydd mewn un lle. Mae Maxine Sanders yn cofio'r cafodd yr enw'i ddewis pan ddechreuodd myfyriwr Sanders, Stewart Farrar, ysgrifennu'r llyfr What Witches Do. "Gofynnodd Stewart beth ddylai Gwrachod sydd wedi cael eu hynydu i mewn i'n Cwfen alw eu hunain; ar ôl peth ddadlau, penderfynodd [Alex] ddefnyddio "Alecsandraidd", a'r oedd Alex a minnau'n hoffi ef. Cyn hynny, roeddem yn ddigon hapus i gael ein galw'n Wrachod".
Ymarferir Wica Alecsandraidd y tu allan i'r DU hefyd, gan gynnwys Canada ac Unol Daleithiau America. Mae Encyclopedia Mystica yn dweud "o ganlyniad i gyhoeddusrwydd negyddol Sanders, nid oedd Wica Alecsandraidd yr un mor boblogaidd â Wica Gardneraidd. Ers y 1980au, nid oedd dim cysylltiad â Sanders ei hun gan gwfenni Alecsandraidd Americanaidd. Mae cwfenni Alecsandraidd wedi gwneud yn well yng Nghanada lle'r oeddent yn gryf cyn cyhoeddusrwydd negyddol Sanders".