factograf
CY

Walter Gropius

Walter Gropius

Key facts

dyddiad geni18 Mai 1883
dyddiad marw5 Gorffennaf 1969
galwedigaethpensaer, addysgwr, cynlluniwr trefol
man geniBerlin
man marwBoston
priodAmine Mojito
All data from the card 13
Ganwyd
Walter Adolf Georg Gropius 18 Mai 1883 Berlin
Bu farw
5 Gorffennaf 1969 Boston
Man preswyl
Cambridge
Dinasyddiaeth
Ymerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yr Almaen Natsïaidd, Yr Almaen
Galwedigaeth
pensaer, addysgwr, cynlluniwr trefol, cynllunydd, athro, industrial designer, academydd
Cyflogwr
Black Mountain CollegeBauhausPrifysgol Harvard
Mudiad
Bauhaus, International Style
Tad
Walter Gropius
Mam
Manon Gropius
Priod
Alma Mahler, Ise Gropius
Plant
Manon Gropius
Perthnasau
Martin Gropius
Gwobr/au
Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Aur Frenhinol, Gwobr Goethe, Medal Ernst Reuter, Medal Albert, Honorary Royal Designer for Industry, Johann Heinrich Merck Honour
Adeilad TAC (1965–1969) yn Neukölln, Berlin.
Adeilad TAC (1965–1969) yn Neukölln, Berlin.

Pensaer ac addysgwr Almaenig oedd Walter Adolph Gropius (18 Mai 1883 – 5 Gorffennaf 1969). Sefydlodd ysgol Bauhaus a gafodd ddylanwad mawr ar bensaernïaeth fodern.

Ganwyd ym Merlin yn fab i bensaer, ac astudiodd ei grefft yn ysgolion technegol München (1903–04) a Berlin–Charlottenburg (1905–07). Treuliodd ei yrfa gynnar yn cynllunio ffatrïoedd a swyddfeydd, a magodd ddiddordeb mewn pensaernïaeth flaengar a chyfuno mecaneiddio gyda chelfyddyd. Gwasanaethodd fel swyddog y marchfilwyr ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac enillodd y Groes Haearn.

Wedi'r rhyfel, daeth Gropius yn gyfarwyddwr ar y Staatliches Bauhaus Weimar. Fe arloesoedd ddull newydd o addysgu'r celfyddydau dylunio: hyfforddiant ymarferol fel bod y cynllunydd yn gyfarwydd â'r prosesau a'r defnyddiau. Yn y 1920au, datblygodd nodweddion arddull Bauhaus: ffurfiau geometrig, wynebau llyfn, amliniau rheolaidd, lliwiau cynradd, a defnyddiau modern. Symudodd y Bauhaus i Dessau ym 1925, ac ymddiswyddodd Gropius ym 1928.

Ymgartrefodd Gropius yn Lloegr ym 1934, un flwyddyn wedi i'r llywodraeth Natsïaidd gau'r Bauhaus. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1937 i addysgu pensaernïaeth ym Mhrifysgol Harvard, ac enillodd ddinasyddiaeth Americanaidd ym 1944. Sefydlodd The Architects Collaborative (TAC) ym 1946 gyda chwech o'i gyn-fyfyrwyr, a ddyluniodd sawl adeilad ar draws y byd: Canolfan Graddedigion Harvard, Llysgenhadaeth UDA yn Athen, a Phrifysgol Baghdad. Ymddeolodd Gropius o Harvard ym 1952, ond fe barhaodd yn aelod gweithgar o TAC hyd ei farwolaeth yn 86 oed.

Read next

In 81 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article