Mamal morol mawr yw'r walrws (hefyd morfarch a morlo ysgithrog) (Odobenus rosmarus). Mae walrysau i'w cael wedi'u gwasgaru ledled Cefnfor yr Arctig a'r moroedd cyfagos o amgylch Pegwn y Gogledd. Mae dau isrywogaeth o walrws: Odobenus rosmarus rosmarus, sy'n byw yng Nghefnfor yr Iwerydd, ac Odobenus rosmarus divergens, sy'n byw yn y Cefnfor Tawel. Ar adegau maen nhw i'w canfod ger arfordir Cymru.
Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth "Diffyg Data" o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.
Gweler hefyd
- Rhestr o greaduriaid morol gwledydd Prydain
- Rhestr Goch yr IUCN, rhestr o greaduriaid wedi'u dosbarthu i 9 categori yn ôl niferoedd, prinder, cadwraeth ayb.
