
Trydedd ddinas Norwy, yn ardal Sør-Trøndelag, yw Trondheim. Mae ganddi boblogaeth o 198 219 o drigolion yn y ddinas ei hun (amcangyfrif Awst 2019) a 279 234 o drigolion yn ardal Trondheim. Saif y ddinas ar aber Afon Nidelva, lle mae'n ymuno â Trondheimsfjord. Ymysg ei hadeiladau nodedig y mae Eglwys Gadeiriol Nidaros, eglwys gadeiriol ganoloesol fwyaf gogleddol y byd a'r eglwys gadeiriol fwyaf yn Llychlyn.
Adeiladau a chofadeiladau
- Dinas Kristiansten
- DORA 1
- Eglwys Gadeiriol Nidaros
- Trondhjems mekaniske Værksted
- Ynys Munkholmen
Enwogion
- Peter Tordenskjold (1691-1720), morwr
- Arve Tellefsen (g. 1936), fiolynydd
Gefeilldrefi
- Yr Alban - Dunfermline
- Yr Almaen - Darmstadt
- Awstria - Graz
- Croatia - Split
- Denmarc - Odense
- Eritrea - Keren
- Y Ffindir - Tampere
- Gwlad yr Iâ - Kópavogur
- Israel - Petah Tikva
- Moldofa - Tiraspol
- Palesteina - Ramallah
- Sweden - Norrköping
- UDA - Vallejo, Califfornia
