- Am leoedd eraill yn dwyn yr enw, gweler Tredegar (gwahaniaethu)
Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Tredegar. Saif yn Nyffryn Sirhywi. Mae Caerdydd 33.2 km i ffwrdd o Dredegar ac mae Llundain 218.7 km i ffwrdd. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 27 km i ffwrdd.
Hanes
Wedi'i leoli o fewn ffiniau hanesyddol yr hen Sir Fynwy, fe ddaeth yn ganolfan gynnar y Chwyldro Diwydiannol yn Ne Cymru. Ym 1778, adeiladwyd ffwrnais haearn yn Sirhywi gan Thomas Atkinson a William Barrow a ddaeth i'r ardal o Lundain. Roedd angen tanwydd ar gyfer y ffwrnais, felly cyflogwyd dynion i gloddio glo ym Mryn Bach a Nant-y-bwch. Dyma'r mwyngloddio cyntaf, ar raddfa fach, yn yr ardal.
Methodd y ffwrnais yn 1794. Yn 1797, adeiladodd Samuel Homfray, gyda'i bartneriaid Richard Fothergill a Monkhouse Matthew, ffwrnais newydd, gan brydlesu'r tir o Stâd Tredegar yng Nghasnewydd. Creodd hyn Waith Haearn Sirhywi a oedd yn y pendraw i ddod yn Waith Haearn Tredegar, a enwyd er anrhydedd Ystâd Tŷ Tredegar yn Nhredegar a Pharc Tredegar yng Nghasnewydd yn ne'r sir. Mae Adrian Vaughn, yn ei lyfr Grub, Dŵr a Relief (1985) yn crybwyll mai yn 1832 y cymerodd John Gooch swydd rheolwr yng ngweithfeydd haearn Tredegar.
Bu sawl epidemig colera yn y dref yn ystod y 19g a chrëwyd mynwent benodedig ar gyfer y rhai a fu farw o golera yng Nghefn Golau.
Pensaernïaeth
Tŷ Bedwellty
Mae Tŷ Bedwellty a'i ardd yn adeilad rhestredig Gradd 2. Yn wreiddiol, roedd yr adeilad yn "fwthyn to gwellt isel", ac fe gafodd yr hen dŷ ei adnewyddu ym 1809. Fe adeiladwyd yr adeilad presennol ym 1818 fel tŷ i Samuel Homfray, a oedd yn brif gyflogwr yr ardal am y rhan fwyaf o'r 19g, trwy ei weithiau glo a haearn.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
| Cyfrifiad 2011 | ||||
|---|---|---|---|---|
| Poblogaeth cymuned Tredegar (pob oed) (15,103) | 100% | |||
| Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tredegar) (1,212) | 8.3% | |||
| :Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
| Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tredegar) (13855) | 91.7% | |||
| :Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
| Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tredegar) (3,137) | 46.6% | |||
| :Y ganran drwy Gymru | 67.1% | |||
Cloc y Dref
Un o brif nodweddion Tredegar yw Cloc y Dref, sydd yn dominyddu ochr ddeheuol canol y dref. Syniad Mrs R P Davies, gwraig rheolwr Gwaith Haearn Tredegar, oedd cyflwyno "cloc oleuedig aruchel". Ei phenderfyniad hi oedd adeiladu'r cloc yng nghylch canol y dref.
Enwogion
- Aneurin Bevan - gwleidydd
- Ray Reardon - chwaraewr snwcer enwog
- Cliff White - chwaraewr snwcer
- Phil Williams - gwyddonydd a gwleidydd a aned yn y dref
- Christopher Meredith - bardd a nofelydd
- Mark Jones (1965-2025), chwaraewr rygbi rhyngwladol
Gwybodaeth eraill
Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 468 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 441 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 392 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 8.8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan leol Archifwyd 2021-01-17 yn y Peiriant Wayback
- Camera gwefan Archifwyd 2004-03-30 yn y Peiriant Wayback
- Clwb rygbi Archifwyd 2008-06-24 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Abertyleri · Blaenau · Bryn-mawr · Glynebwy · Tredegar
Pentrefi
Aber-bîg · Brynithel · Cendl · Cwm · Cwmtyleri · Chwe Chloch · Llanhiledd · Nant-y-glo · Rasa · St Illtyd ·Swffryd · Tafarnau-bach · Trefil · Y Twyn · Waun-lwyd
