factograf
CY

Tirffurf

Tirffurf

Nodwedd arbennig o'r dirwedd (e.e. peiran, ystumllyn, neu forffoleg) a chymeriad cyffredinol arwyneb y tir yw tirffurf. Gall fod yn ganlyniad i ryngweithiad prosesau geomorffolegol (er enghraifft, gweithgaredd afonol, gweithgaredd rhewlifol, hindreuliad) a phrosesau tectonig a folcanig.

Geomorffoleg yw'r astudiaeth wyddonol o dirffurfiau'r ddaear a'r prosesau a roes fod iddynt.

Termau tebyg

O fewn Gwyddorau Daear, "tirwedd" yw'r term cyffredinol i ddisgrifio pryd a gwedd ardal sy'n cynnwys nodweddion naturiol (tirffurfiau) a nodweddion o wneuthuriad bodau dynol. O ran yr hinsawdd, gellir ei ddiffinio fel y graddau o wahaniaeth topolegol mewn codiadau yn y tirwedd, h.y. cydffurfiad wyneb solet y ddaear o ystyried ei elfennau anwastad (codiadau, pantiau, llethrau) gyda'i gilydd.

Gweler hefyd

Read next

In 68 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article