factograf
CY
Sign in

Tangiad

Tangiad
All data from the card 5
Enghraifft o:
role
Math
llinell
Yn cynnwys
point of tangency
Freebase
/M/07r7c
Thesawrws y BNCF
55900
Plân tangiad i sffêr.
Plân tangiad i sffêr.

Mewn geometreg, llinell y tangiad (neu'n syml: tangiad) i blân cromlin mewn man benodol yw'r linell syth sy'n "prin-gyffwrdd" y gromlin ar y pwynt hwnnw. Mae'r cysyniad o dangiad yn hanfodol, yn greiddiol i geometreg gwahaniaethol ac mae wedi'i ddatblygu'n helaeth. Daw'r gair "tangent" o'r gair Lladin tangere, sef 'cyffwrdd'.

Diffiniodd yr Almaenwr Gottfried Wilhelm Leibniz (1646 - 1716) y tangiad fel y linell trwy bâr o bwyntiau anfeidraidd o agos at ei gilydd, ar gromlin.

Dywedir bod y linell syth yn dangiad o gromlin y = f (x) ar bwynt x = c ar y gromlin os yw'r linell yn pasio drwy'r pwynt (c, f (c)) ar y gromlin a bod ganddi oledd f '(c) ble mae f ' yn ddeilliad o f. Ceir diffiniad tebyg i gromlinau gofod (space curves) a chromlinau oddi mewn i ofod Ewclidaidd n-dimensiwn.

Wrth i'r linell dangiad basio drwy'r pwynt lle mae'n cyfarfod y gromlin (a elwir yn "pwynt tangiadaeth") mae'r linell dangiad yn mynd i'r un cyfeiriad â'r gromlin.

Yn yr un modd, y plân sy'n dangiad i arwyneb mewn man benodol yw'r plân sy'n "prin-gyffwrdd" yr wyneb ar y pwynt hwnnw.

Hanes

Disgrifiodd Euclid (fl. 300 CC) dangiad i gylch, yn Rhan III o'i Elfennau (c. 300 BC). gan ddefnyddio'r gair Groeg ἐφαπτομένη (ephaptoménē). Dilynwyd ef ychydig wedyn gan Apollonius o Berga a ddiffiniodd y tangiad fel 'llinell, lle na all unrhyw linell arall fynd rhngddo a'r gromlin, a disgrifiwyd y tangiad hefyd gan Archimedes (c.  287 – c.  212 BC).

Hafaliad

Pan ddynodir y gromlin gan y = f(x) yna, mae goledd y tangiad yn {\displaystyle {\frac {dy}{dx}},} ac felly, drwy'r fformiwla pwynt-goledd hafaliad llinell y tangiad ar (X, Y) yw

{\displaystyle y-Y={\frac {dy}{dx}}(X)\cdot (x-X)}

lle mae (x, y) yn gyfesurynnau unrhyw bwynt ar linell y tangiad, a lle mae'r deilliad yn cael ei werthuso ar {\displaystyle x=X}.

Pan ddynodir y gromlin gan y = f(x), gellir canfod hafaliad llinell y tangiad hefyd drwy dynnu polynomial, i rannu {\displaystyle f\,(x)} by {\displaystyle (x-X)^{2}}; os nodir y gweddill gan {\displaystyle g(x)}, yna hafaliad llinell y tangiad yw

{\displaystyle y=g(x).}

Termau tebyg

  • plân tangiad - tangent plane
  • tynnu tangiad - draw a tangent
  • pwynt tangiadaeth - point of tangency

Read next

In 67 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article