
Mae storm, neu storom, yn unrhyw gyflwr aflonydd yn yr amgylchedd naturiol neu awyrgylch corff seryddol; mae'n dywydd cythryblus a nodweddir gan wyntoedd cryfion, glaw, cenllysg, taranau, mellt, eira ayyb. Mae stormydd yn gryn wahanol i dywydd arferol, gan gynnwys gwyntoedd cryfion, trowyntoedd, cesair, taran, a mellt (storm o fellt a tharanau), dyodiad trwm (storm sydyn o eira, storm sydyn o law), glasrew trwm (storm sydyn o rew), gwyntoedd cryfion (trowynt trofannol, storm sydyn o wynt), a mathau eraill o dywydd difrifol.
