factograf
CY

Dinas yn Lloegr

St Albans

St Albans

Key facts

poblogaeth82,146
arwynebedd18.1km²
enghraifft o'r canlynoldinas, ardal ddi-blwyf
gwladwriaethy Deyrnas Unedig
lleolir yn yr ardal weinyddolDinas ac Ardal St Albans
All data from the card 10
Math
dinas, ardal ddi-blwyf
Enwyd ar ôl
Alban
Ardal weinyddol
Dinas ac Ardal St Albans
Poblogaeth
82,146
Gefeilldref/i
Worms, Fano, Nyíregyháza, Nevers, Odense, Sylhet
Gwlad
Lloegr
Arwynebedd
18.1 km²
Yn ffinio gyda
Harpenden
Cyfesurynnau
51.755°N 0.336°W
Cod OS
TL148073

Dinas yn ne Swydd Hertford, Dwyrain Lloegr, yw St Albans (o'r Lladin Villa Sancti Albani neu Villa Albani), a leolir tua 22 milltir (35 km). Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dinas ac Ardal St Albans. Saif i'r gogledd o ganol Llundain; mae'n ffurfio rhan ganolog Dinas ac Ardal St Albans (Saesneg: City and District of St Albans). Mae'n dref farchnad hanesyddol sydd bellach yn rhan o wregys comiwtio Llundain.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig St Albans boblogaeth o 82,146.

Cyfeirir at St Albans fel Verulanium ac Old Albanian weithiau hefyd. Cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, roedd St Albans yn drigfan i bobl Celtaidd y Catuvellauni ac yn cael ei hadnabod fel Verlamion (neu Verulam). Yng nghyfnod y Rhufeiniaid, Verlamion oedd yr arosfa cyntaf ar Stryd Watling, y ffordd Rufeinig a redai o Lundain i'r gogledd, a ddatblygodd yn ddinas Rufeinig Verulamium.

Cafodd Sant Alban, a ystyrir y merthyr Cristnogol cyntaf ym Mhrydain, ei ddienyddio yn 308 OC gan Maximian ar orchymyn yr Ymerodr Diocletian. Ar ôl Sant Alban caiff y ddinas bresennol ei henw.

Dolenni allanol

  • (Saesneg) Gwefan swyddogol St Albans
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Hertford. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Read next

In 59 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article