factograf
CY

Cangen ieithyddol ac ethnig

Slafiaid

Slafiaid
All data from the card 10
Enghraifft o:
panethnicity
Math
pobl Indo-Ewropeaidd
Mamiaith
Ieithoedd slafonaidd
Poblogaeth
300,000,000
Crefydd
Cristnogaeth, eglwysi uniongred, catholigiaeth, islam, protestaniaeth, paganiaeth, swnni, anffyddiaeth, slavic religion
Rhan o
pobl Indo-Ewropeaidd
Yn cynnwys
Slafiaid Gorllewinol, Slafiaid Deheuol, Slafiaid y Dwyrain, Early Slavs, North Slavs, Bavaria Slavica
System ysgrifennu
Glagolitic, Yr wyddor Gyrilig, y sgript Ladin
Freebase
/M/0790v
Thesawrws y BNCF
35558
Gwledydd Slafaidd yn Ewrop
Gwledydd Slafaidd yn Ewrop

Cangen ieithyddol ac ethnig o'r bobloedd Indo-Ewropeaidd yw'r Slafiaid. O'u mamwlad gyntefig ar wastatiroedd Wcráin, ymledodd y bobloedd Slafaidd dros rhan helaeth o Ddwyrain Ewrop, gan wladychu'r Balcaniaid, glannau'r Baltig a Rwsia yn yr Oesoedd Canol cynnar. Gyda thwf Ymerodraeth Rwsia o'r 16g ymlaen, daeth Siberia ac ardaloedd eraill gogledd Asia o dan reolaeth Slafiaid.

Yn draddodiadol, dosbarthir y Bobloedd Slafaidd ar sail iaith yn dri grŵp: Slafiaid y Gorllewin (Tsieciaid, Pwyliaid, Slofaciaid a Sorbiaid), Slafiaid y Dwyrain (Belarwsiaid, Wcreiniaid a Rwsiaid) a Slafiaid y De (Bwlgariaid a bobloedd yr hen Iwgoslafia: Bosniaid, Croatiaid, Macedoniaid, Montenegroaid, Serbiaid a Slofeniaid).

Y famwlad Slafaidd

Er ei bod yn eglur bod y famwlad Slafaidd gyntefig rhywle yn Nwyrain Ewrop, mae dadleuon ymysg ysgolheigion am ei lleoliad pendant. Gwyddys i'r Slafiaid wladychu ardal y Balcaniaid a'r rhan fwyaf o Rwsia yn ystod y cyfnod hanesyddol. Yn ôl y farn fwyaf cyffredin, lleoliad y famwlad Slafaidd oedd ar hyd canol yr afon Dnieper, ardal sydd heddiw yn cyfateb i ogledd canol a gorllewin Wcráin a de Belarws. Mae'n amhosibl ail-lunio unrhyw dermau morwrol (er enghraifft, gair am 'cwch' neu 'angor') na gair am 'ambr' yn y gyn-iaith Slafaidd. Mae hyn yn sail i gredu nad oedd y famwlad yn cyrraedd glanau'r Baltig. Nid yw ffynonellau Rhufeinig yn crybwyll y Slafiaid cyn y 6g. Unwaith eto, mae hyn yn awgrymu nad oedd yna ddim Slafiaid ar gyrion gogleddol yr Ymerodraeth Rufeinig. Mae tystiolaeth ieithyddol yn dangos hefyd bod y Slafiaid cynnar mewn cysylltiad clòs am beth amser â phobloedd Iranaidd a Germanaidd. Mae nifer o eiriau am gysyniadau crefyddol (er enghraifft y geiriau cyn-Slafoneg am 'duw' a 'paradwys') wedi'u benthyg gan y gyn-iaith Iranaidd. Roedd llwythi Iranaidd (y Scythiaid a'r Sarmatiaid) yn trigo i'r gogledd o'r Môr Du yn ail hanner y mileniwm cyntaf CC, a Gothiaid yn yr un ardal yn ddiweddarach. Mae'r dystiolaeth hyn i gyd yn ddilys â lleoliad i'r famwlad Slafonaidd i'r gogledd o'r llythi hyn, ond heb fod mor bell â Môr Baltig. Mae hyn yn agos iawn at y famwlad Indo-Ewropeaidd ei hun.

Yr ymfudiadau Slafaidd

Erbyn y chweched a'r 7coedd OC, yn ôl haneswyr Rhufeinig a Groeg, fel Jordanes yn ei hanes o'r Gothiaid 'De origine actibusque Getarum' a Procopius yn ei ysgrifau yntau, cartref y llythi Slafaidd oedd yr ardal i'r gogledd o Afon Donaw (Donwy), mewn rhwymyn o dir rhwng Afon Vistula uchaf ac Afon Dniepr (Wcrain a Gwlad Pwyl heddiw). O'r bumed i'r 10g roedd ffiniau tiriogaeth y Slafiaid yn ystwyth iawn. Yn ystod y cyfnod hwn, ehangodd y Slafiaid eu tiriogaeth yn sylweddol, gan ymfudo o'u mamwlad ym mhob cyfeiriad, a dechreuodd eu iaith ymrannu i greu'r tair cangen a welir heddiw. Daeth yr ymfudiadau hyn â'r Slafiaid i'r gogledd a gogledd-ddwyrain (Rwsia heddiw), lle daethant mewn cysylltiad â phobloedd Baltaidd a Ffinno-Wgraidd. Yn y De, croesasant Afon Donaw i gyrraedd tiroedd yrYmerodraeth Fysantaidd ac ymsefydlu yng ngwledydd heddiw Slafiaid y De (Bwlgaria, Serbia, Croatia ayyb). Yn y gorllewin, ymgartrefodd y Slafiaid ar lannau'r Môr Baltig gan gymysgu â llwythi Baltaidd a Germanaidd hyd at ogledd a dwyrain yr Almaen. Fel hyn y mae'r Brut Cynradd Rwsieg yn disgrifio'r sefyllfa:

Dros cyfnod hir gwladychodd y Slafiaid ar lannau'r Donaw, lle mae'r tiroedd Hwngaraidd a Bwlgaraidd yn gorwedd heddiw. O blith y Slafiaid hyn, ymwasgarodd carfanau dros y wlad, ac fe'u hadnabuwyd gan enwau perthnasol, yn ôl y llefydd a wladychodd. Felly daeth rhai i wladychu ger Afon Morava, ac fe'i henwyd yn Morafiaid, tra i eraill gael eu henwi'n Tsieciaid.

Yr ieithoedd Slafaidd

Ieithoedd Slafonaidd Dwyreiniol Rwsieg Belarwseg Wcreineg Rwsyneg
Ieithoedd Slafonaidd Dwyreiniol Rwsieg Belarwseg Wcreineg Rwsyneg
Ieithoedd Slafonaidd y DeSlofeneg Slofeneg Pannoneg Slofeneg Styrieg Slofeneg Carintheg Slofeneg Carnioleg Slofeneg Rofteg Slofeneg ArfordirolCroateg Croateg Kajkavieg Croateg Chakavieg Croateg ShtokaviaegBosneg Bosniac BosnegSerbeg Tafodiaith Dwyreiniol…
Ieithoedd Slafonaidd y DeSlofeneg Slofeneg Pannoneg Slofeneg Styrieg Slofeneg Carintheg Slofeneg Carnioleg Slofeneg Rofteg Slofeneg ArfordirolCroateg Croateg Kajkavieg Croateg Chakavieg Croateg ShtokaviaegBosneg Bosniac BosnegSerbeg Tafodiaith Dwyreiniol…
Ieithoedd Slafonaidd Gorllewinol Pwyleg Casiwbeg Isel Sorbeg Uchel Sorbeg Tsieceg Slofaceg
Ieithoedd Slafonaidd Gorllewinol Pwyleg Casiwbeg Isel Sorbeg Uchel Sorbeg Tsieceg Slofaceg
3 images

Heddiw mae tua 430 miliwn o bobl yn siarad iaith Slafaidd. Rwsieg yw'r un â'r nifer fwyaf o siaradwyr (255 miliwn),

Gwledydd a ddefnyddir ieithoedd Slafaidd gyda statws swyddogol yw: Rwsia (Rwsieg), Gwlad Pwyl (Pwyleg), Wcráin (Wrceineg), Belarws (Belarwsieg a Rwsieg), Y Weriniaeth Tsiec (Tsieceg), Slofacia (Slofaceg), Slofenia (Slofeneg), Croatia (Croateg), Bosnia a Hertsegofina (Bosneg, Croateg a Serbeg), Serbia (Serbeg), Gogledd Macedonia (Macedoneg) a Montenegro (Montenegreg).

Read next

In 106 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article