Math o gerddoriaeth werin neu gerddoriaeth pop cynnar yw sgiffl (gair benthyg o'r Saesneg: skiffle). Mae wedi ei ddylanwadu gan genres fel canu gwlad, jazz a'r felan. Mae'r cerddorion yn defnyddio offerynnau fel y gitâr acwstig, y harmonica neu'r banjo, ac offerynnau wedi'u gwneud yn fyrfyfyr neu gartref fel cribau, potiau, bwrdd golchi, dalennau o bapur, ac ati.
Hanes

Mae gwreiddiau sgiffl yn aneglur ond credir yn gyffredinol eu bod yn gorwedd yn niwylliant cerddorol Affricanaidd-Americanaidd ar ddechrau'r 20g. Dywedir yn aml fod sgiffl wedi datblygu o jazz New Orleans, ond mae dadl ynghylch yr honiad hwn. Roedd 'bandiau jwg' (jug band - bandiau yn defnyddio offerynnau cerdd syml, gan gynnwys chwythu alaw i jwg wydr neu glai) byrfyfyr yn chwarae'r felan a jazz yn gyffredin ar draws Deheudir yr Unol Daleithiau yn negawdau cynnar yr 20g. Roeddent yn defnyddio offerynnau megis yr ystyllen olchi (bwrdd golchi), jygiau, bas twb golchi, ffidil bocs sigar, llif cerddorol a chasŵau crib a phapur, yn ogystal ag offerynnau mwy confensiynol, fel gitâr acwstig a banjo.
Nid yw tarddiad y gair Saesneg "skiffle" yn hysbys. Fodd bynnag, yn nhafodiaith gorllewin Lloegr mae gwneud skiffle, sy'n golygu "gwneud llanast" o unrhyw fusnes, wedi'i ardystio o 1873. Ar ddechrau'r 20g roedd y term 'skiffle' yn un o lawer o ymadroddion bratiaith ar gyfer 'parti rhent', digwyddiad cymdeithasol gyda thâl bychan wedi'i gynllunio i dalu rhent ar dŷ. Fe'i cofnodwyd gyntaf yn Chicago yn y 1920au ac mae'n bosibl iddo gael ei ddwyn yno fel rhan o'r ymfudiad Affricanaidd-Americanaidd i ddinasoedd diwydiannol gogledd yr Unol Daleithiau. Defnyddiwyd y term am y tro cyntaf ym 1925 yn enw Jimmy O'Bryant and his Chicago Skifflers. Gan amlaf fe'i defnyddiwyd i ddisgrifio recordiau canu gwlad, a oedd yn cynnwys y cyfansoddiadau "Hometown Skiffle" (1929) a "Skiffle Blues" (1946) gan Dan Burley a'i fand, y Skiffle Boys. Fe'i defnyddiwyd gan Ma Rainey (1886-1939) i ddisgrifio ei repertoire i gynulleidfaoedd gwledig. Diflannodd y term o gerddoriaeth Americanaidd yn y 1940au.
Daeth Skiffle yn hynod boblogaidd yn y Deyrnas Unedig ac yng Ngymru'n, ar ddiwedd y 1950au pan gafodd Lonnie Donegan hit fyd-eang gyda'r gân Rock Island Line. Grwpiau adnabyddus eraill o’r Deyrnas Unedig oedd y Gin Mill Skiffle Group, a'r Quarrymen (y Beatles yn ddiweddarach). Agorodd poblogrwydd y gerddoriaeth syml hon lygaid pobl ifanc o Brydain a sylweddolodd y gallent chwarae cerddoriaeth a chael llwyddiannau gwerthu. Y canlyniad, flynyddoedd yn ddiweddarach, oedd y ffrwydrad cerddorol masnachol o'r enw "The British Invasion".
Cymru a'r Sgiffl

Bu i'r sgiffl gyrraedd Cymru ac roedd natur rhad di-drydan yr offerynnau yn benthyg ei hun yn dda i gymdeithas Gymraeg yr 1950au a 60au lle nad oedd, efallai, gymaint o offerynnau trydan mwy soffistigedig ar gael na darpariaeth ar eu cyfer. Gwnaeth canu sgiffl lawer i bontio canu gwerin a phoblogaidd (ond ceidwadol) Cymraeg gyda dechreuad canu pop Cymraeg a'r Sîn Roc Gymraeg.
Ymhlith y grwpiau sgiffl Cymraeg a bu fwyaf llwyddiannus oedd Hogia Bryngwran o Ynys Môn a ffurfiwyd tua 1955-56, ac Hogia Llandegai o ardal Bangor a sefydlwyd yn 1957. Gwelwyd dylanwad sgiffl hefyd ar grwpiau fel y Bara Menyn o ddiwedd y 1960au.
Byddai grwpiau sgiffl Cymraeg fel Hogia Llandegai a rhai di-gymraeg o Gymru fel y Dewi Peter's Skiffle Group o ardal Merthyr Tudful, yn ymddangos ar raglenni cerddoriaeth Cymraeg y BBC yn yr 1960au fel Noson Lawen a Hob y Deri Dando. Er mai Cymry Cymraeg gellid amcan oedd aelodau nifer o'r bandiau, yn Saesneg megis 'The Streamline Gamblers' o Aberystwyth a'r caneuon gellid tybied gan ddilyn ffasiwn yr oes.
Cafwyd band adnabyddus 'Railroad Bill' o Gaerdydd eu sefydlu yn 1986 fel rhan o adfywiad sgiffl. Galwent eu hunain, "the band which time forgot" a byddent yn canu cyngherddau ar draws Prydain a thramor.
Ymddengys i'r chwiw dros sgiffl bara rhwng 1955-57 gyda'r BBC yn gwneud llawer i'r boblogrwydd a'i ledaeniad.
Gwahardd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol
Yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni 1957 gwrthododd yr Archdderwydd William Morris (Moi Plas) rhag i ganu sgiffl fod ar Faes yr Eisteddfod gan ddweud nad cerddoriaeth oedd sgiffl ond "sbwriel" fel atgofiau Neville Evans, un o aelodau Criw Sgiffl Llandegau (ddaeth, maes o lawn, yn Hogia Llandegai) yn llyfr Y Felin Bop.
Dolenni allanol
- The skiffle craze: a popular music phenomenon of the 1950s traethawd ymchwil gan Michael Dewe o Brifysgol Aberystwyth, 1999
- Ffotos o Grŵp Sgiffl Llandegai yn 1958 a ddaeth, maes o law, yn Hogia Llandegai
- Railroad Bill Skiffle Group - Putting On The Style Railroad Bill yn perfformio'r gân ar raglen BBC Wales, 'Class of 58', a ddarlledwyd yn 2001
