factograf
CY
Sign in

cyfreithiwr, Gweriniaeth Texas

Sam Houston

Sam Houston
All data from the card 9
Ganwyd
2 Mawrth 1793 Lexington, Rockbridge County
Bu farw
26 Gorffennaf 1863 o niwmonia Huntsville
Man preswyl
Woodland
Dinasyddiaeth
Unol Daleithiau America, Gweriniaeth Texas
Galwedigaeth
gwleidydd, cyfreithiwr
Plaid Wleidyddol
plaid Ddemocrataidd
Tad
Maj. Samuel Houston
Priod
Margaret Lea Houston, Dianna Rogers
Plant
Temple Lea Houston, Andrew Jackson Houston, Nancy "Nannie" Elizabeth Morrow, Sam Houston, Jr., Antoinette Power Houston Bringhurst

Gwladweinydd, gwleidydd a milwr Americanaidd o'r 19g oedd Samuel Houston (2 Mawrth 1793 – 22 Gorffennaf 1863). Arweiniodd Texas i annibyniaeth ym mrwydr San Jacinto a daeth yn arlywydd cyntaf Gweriniaeth Texas.

Fe'i ganwyd yn Timber Ridge yng Nghwm Shenandoah, Virginia, yn bumed mab i Major Samuel Houston, linach Sgotig Ulster, a'i wraig Elizabeth Paxton. Ar ôl marwolaeth ei dad ym 1807, symudodd y teulu i Tennessee ddwyreiniol. Ymladdodd Sam Houston yn y Rhyfel 1812 ble cyfarfu'r mentor Andrew Jackson. Astudiodd yn swyddfa yn Nashville a daeth yn gyfreithiwr yn Lebanon, Tennessee. Ym 1827, cafodd Houston ei ethol yn Llywodraethwr Tennessee. Fe briododd Eliza Allen, 19 oed, o Gallatin, Tennessee ar 22 Ionawr 1829, ond daeth y briodas i ben yn fuan wedyn. Aeth Houston i'r gorllewin i fyw gyda'r Cherokee yn Nhiriogaeth Arkansas gan briodi un ohonynt, Tiana Rogers.

Aeth Houston i Texas Mecsicanaidd yn Rhagfyr 1832. Derbyniodd Texas annibyniaeth o Mecsico ar 2 Mawrth 1836. Arweiniodd fyddin Texian i fuddugoliaeth yn erbyn Byddin Mecsico dan Antonio López de Santa Anna ym mrwydr San Jacinto ar 21 Ebrill 1836. Daeth Houston yn arlywydd cyntaf Gweriniaeth Texas ar 22 Hydref 1836.

Dolenni allanol

  • (Saesneg) Bywyd General Houston, 1793-1863 gyhoeddi 1891, cynhaliodd gan y Porth i Hanes Texas.

In 54 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article