Tref yn Ne Swydd Lanark, yr Alban, yw Rutherglen (Gaeleg: An Ruadh-Ghleann; Sgoteg: Ruglen).
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 31,400.
Arferai Rutherglen fod yn ganolfan diwydiant trwm, ac roedd ganddo draddodiad cloddio glo a ddaeth i ben erbyn 1950. Cynhyrchodd J&J White's Chemical Works (ACC Chrome & Chemicals yn ddiweddarach), a oedd yn gweithredu rhwng 1820 a 1967, fwy na 70 y cant o cynhyrchion cromad y DU. Heddiw mae etifeddiaeth sylweddol o wastraff cromiwm hydawdd yn yr ardal. Maestref noswylio Glasgow yw Rutherglen, fel y mwyafrif o'r trefi eraill sy'n amgylchynu'r ddinas.
Enwogion
- Janet Brown (1923-2011), actores a chomediwr
- Robbie Coltrane (g. 1950), actor a chomediwr
