Roedd Bridget Rose Dugdale (25 Mawrth 1941 – 18 Mawrth 2024) yn Saesnes o deulu aristocrataidd a ddaeth yn wirfoddolwr yn y mudiad gweriniaethol Gwyddelig milwriaethus, y Fyddin Weriniaethol Iwerddon Dros Dro (IRA). Fel aelod o’r IRA, cymerodd ran mewn lladrad paentiadau gwerth IR£8 miliwn, ymosodiad bom ar orsaf Heddlu Brenhinol Ulster (RUC) a gweithredoedd terfysgol eraill. Priododd â Eddie Gallagher ym 1978.
Ar ôl iddi gael ei rhyddhau o'r carchar, bu Dugdale yn weithgar yn yr ymgyrch ar ran carcharorion gweriniaethol Gwyddelig yn ystod streic newyn Iwerddon yn 1981.
O ganol y 1980au i'r 2000au cynnar, gyda Jim Monaghan, datblygodd bomiau ac arfau cartref. Galwyd un yn "lansiwr bisgedi" (mae un ohonynt yn Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin yn Chelsea).
Mewn cyfweliad gyda'r papur newydd gweriniaethol An Phoblacht yn 2011, dwedodd Dugdale ei bod yn credu bod "y fyddin chwyldroadol, sef yr IRA, wedi cyflawni ei phrif amcan, sef cael eich gelyn i drafod gyda chi."
Hyd at ei marwolaeth, roedd Dugdale yn byw mewn cartref gofal yn Nulyn. Bu farw yno, yn 82 oed.