Seren las yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yng nghytser Orïon yw Rigel (hefyd β Orionis neu Beta Orionis). Gorgawr yw Rigel, y seren fwyaf a disgleiriaf o system o bedair seren sy’n ymddangos i’r llygad noeth fel un pwynt disglair glas-gwyn. Lleolir y system hon tua 850 o flynyddoedd golau o'r Ddaear.
Cyfeiriadau
Eginyn erthygl sydd uchod am seren. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.