Gyrfa
Fe'i hyfforddwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a graddiodd yn 1996 yn 24 oed. Dyddiau cyn iddo raddio, gofynnwyd i Elis roi clyweliadau i asiantaethau castio yn Llundain ac yn ddiweddarach fe'i castiwyd fel Huw Edwards - y cymeriad Cymreig cyntaf ar opera sebon y BBC, Eastenders. Dim ond tair pennod oedd Elis fod i ymddangos ynddo i ddechrau, ond fe estynnwyd ei gontract. Parhaodd Elis yn y sebon am dair blynedd, a gadael yn 1999 gan ofni teip gastio.
Fe aeth ymlaen i ymddangos yn nramau S4C Ar Y Tracs a Pobol Y Cwm, nifer o gynyrchiadau theatr a rhannau yn opera sebon ITV Nuts and Bolts, The Bill, Casualty a Doctors. Mae wedi ymddangos ar amryw o hysbysebion ar gyfer cynnyrch a brandiau tebyg i Wicked, Bisto, McLeans, Sky, Peugeot, Renault, cwmni llaeth Iseldiraidd ac yn nodedig yn hysbysebion diodydd WKD.
Bywyd personol
Mae Elis yn byw yng Nghaerdydd ac yn briod gyda Tonya Smith, actores oedd yn chwarae Yvonne ar opera sebon Pobol Y Cwm. Fe briododd y ddau yn 1998 ac mae ganddynt un ferch, Alys Hedd.
Mae ei dad, Lynne Jones yn gyn-athro, cynllunydd setiau ac actor. Mae ei fam Glenys yn gweithio yn Ysgol Tregib Llandeilo lle mae'n gweithio gyda phlant ac anghenion addysg arbennig. Mae ei frawd Robert yn gweithio fel dyn camera.
Rolau trosleisio
- Digbi Draig: Cochyn (2017)
- Ar Goll yn Oz (2020)
- Crawc a'i Ffrindiau: Gwich (2023)
Dolenni allanol
- Richard Elis ar wefan Internet Movie Database
- Gwefan Personol
- Cyfrif Twitter