Actor ac Americanwr o dras Gymreig yw Richard Colin Brake (ganwyd 30 Tachwedd 1964) sy'n adnabyddus am bortreadu Joe Chill yn Batman Begins a'r Night's King yn Game of Thrones.
Bywyd cynnar
Ganwyd Brake yn Ystrad Mynach, Hengoed i rieni o Gymru, a fe'i magwyd yn nhaleithiau Gogledd Carolina, Tennessee, ac Ohio yn yr Unol Daleithiau. Mewnfudodd ei deulu i'r Unol Daleithiau yn 1967 a setlodd y teulu gyntaf yn Atlanta. Aeth i Academi Western Reserve yn Hudson, Ohio a fe'i hyfforddwyd yn The Science of Acting o dan sylfaenydd y dechneg, a Phrifathro sefydlol yr Academi o Wyddoniaeth Actio a Chyfarwyddo, Sam Kogan. Astudiodd actio hefyd yn Ninas Efrog Newydd yn Michael Chekhov Studio o dan Beatrice Straight.
Gyrfa actio
Ar ôl ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau (yn cynnwys ymddangosiadau byr yn Cold Mountain a Munich), cyflawnodd Brake ei brif ran sylweddol mewn sinema prif ffrwd gyda'i rôl fel Joe Chill yn ffilm Christopher Nolan yn 2005, Batman Begins. Yn y ffilm hon (fel gyda rhan fwyaf o fersiynau cyfres comic Batman), troseddwr yw ei gymeriad sy'n llofruddio rhieni Bruce Wayne, ac felly yn ei osod ar lwybr i ddod yn Batman.
Yn dilyn hyn, ymddangosodd Brake fel Portman yn Doom, gyda Karl Urban a The Rock. Roedd gan Brake ymddangosiad cameo yn fideo'r grŵp Muse ar gyfer "Knights of Cydonia", yn chwarae siryf drwg mewn ffilm gowboi rhyfedd dyfodolaidd. Yna chwaraeodd rhan y cnaf Bobby DeWitt yn The Black Dahlia, ac yn Hannibal Rising chwaraeodd Enrikas Dortlich, un o'r troseddwyr rhyfel sy'n llofruddio chwaer yr Hannibal Lecter ifanc.
Yn Medi 2007, ymddangosodd Brakes ar lwyfan y Young Vic yn The Member of the Wedding gan Carson McCullers. Cyfarwyddwyd y cynhyrchiad gan Matthew Dunster.
Gan ddychwelyd i ffilm, serennodd fel y cymeriad Prior yn Outpost gan y cyfarwyddwr Steve Barker. Serennodd Brake yn Perkins' 14, gan Craig Singer a ymddangosodd yng ngŵyl ffilm Afterer Dark Horrorfest. Yn 2009, ymddangosodd Brake fel Gary Scott yn Halloween II gan Rob Zombie, dilyniant i'w ailgread o Halloween – rôl a gafodd yn seiliedig ar argymhelliad personol i Rob Zombie gan Sid Haig.
Mae wedi ymddangos mewn sawl cyfres deledu Brydeinig, yn cynnwys M.I. High, Keen Eddie a Jeeves and Wooster, yn ogystal â'r sioe deledu Americanaidd Cold Case.
Fe bortreadodd Brake y capten yn yr einherjar yn y ffilm Thor: The Dark World (2013). Yn Mawrth 2015 castiwyd Brake gan Rob Zombie fel y lladdwr Doom-Head yn y ffilm arswyd 31, a ddangoswyd gyntaf yng Ngŵyl Ffilm Sundance Film Festival yn Ionawr 2016.
Bywyd personol
Mae gan Brake dau fab gyda'i gyn-wraig Rachel, Ryan (ganwyd 1999) a Henry (ganwyd 2002).
Ffilmyddiaeth
Ffilm
| Blwyddyn | Teitl |
Rhan | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 1994 | Death Machine | Scott Ridley | |
| 1996 | Subterfuge | Pierce Tencil | |
| 1996 | Virtual Terror | Steve Baker | |
| 1997 | Deus Volt | Bishop Von Match | |
| 2003 | Cold Mountain | Nym | |
| 2005 | Batman Begins | Joe Chill | |
| 2005 | Doom | Corporal Dean Portman | |
| 2005 | Munich | Belligerent American | |
| 2006 | The Black Dahlia | Bobby DeWitt | |
| 2007 | Hannibal Rising | Enrikas Dortlich | |
| 2008 | Outpost | Prior | |
| 2009 | Cuckoo | Lone Wolf | |
| 2009 | Halloween II | Gary Scott | |
| 2009 | Perkins' 14 | Ronald Perkins | |
| 2010 | Legacy | Scott O'Keefe | |
| 2011 | Detention | Mr. Nolan | |
| 2011 | Good Day for It | Norman Tyrus | |
| 2011 | The Incident | Harry Green | Adwaenir fel Asylum Blackout |
| 2011 | Water for Elephants | Grady | |
| 2013 | The Counselor | Ail Ddyn | |
| 2013 | The Numbers Station | Max | |
| 2013 | Thor: The Dark World | Einherjar Captain | |
| 2014 | Set Fire to the Stars | Mr. Unlucky | |
| 2015 | Kingsman: The Secret Service | The Interrogator | |
| 2015 | Spy | Solsa Dudaev | |
| 2015 | The Cannibal in the Jungle | Dr. Timothy Darrow | |
| 2015 | The Chameleon | Detective Brady | |
| 2016 | 31 | Doom-Head | |
| 2016 | Bitter Harvest | Medved | |
| 2016 | Payne & Redemption | Lenny | yn ffilmio |
| 2016 | Extinction | Wrath | cyn-gynhyrchu |
Teledu
| Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 1993 | Jeeves and Wooster | Gohebydd |
Pennod: "Lady Florence Craye Arrives in New York (or, the Once and Future Ex)" |
| 2004 | Keen Eddie | "Dutch" Mike Vanderlay | Pennod: "Sticky Fingers" |
| 2009 | Cold Case | Rich Kiesel | Pennod: "Mind Games" |
| 2009 | M.I. High | Georgi | Pennod: "Family Tree" |
| 2009 | NCIS: Los Angeles | John Bordinay | Pennod: "Ambush" |
| 2010 | The Deep | McIndoe | 3 pennod |
| 2011 | Above Suspicion | Marshall / Alexander Fitzpatrick | 3 pennod |
| 2013 | Mob City | Terry Mandel | 5 pennod |
| 2014 | The Assets | Agent Waters | Episode: "Trip to Vienna" |
| 2014–present | Game of Thrones | The Night's King | 2 pennod |
| 2015 | Grimm | Nigel Edmund | Pennod: "Bad Luck" |
| 2015 | The Bastard Executioner | Baron Edwin Pryce | 3 pennod |
| 2016 | Beowulf: Return to the Shieldlands | Arak | Pennod 8 |
| 2016 | Hawaii Five-0 | Henry Garavito | Pennod: "Ka Pono Ku'oko'a" |
| 2016 | Ray Donovan | Vlad | Cyn-gynhyrchu |
Gemau fideo
| Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 2005 | Juiced | T. K. | |
| 2016 | Squadron 42 | I'w gyhoeddi |
ôl-gynhyrchu |
Fideos Cerddoriaeth
| Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 2006 | Muse | Knights of Cydonia | Sheriff Baron Klaus Rottingham |
