factograf
CY

Rhyfel Cartref Sbaen

Rhyfel Cartref Sbaen
All data from the card 10
Enghraifft o:
rhyfel cartref
Dechreuwyd
18 Gorffennaf 1936
Daeth i ben
1 Ebrill 1939
Rhagflaenwyd gan
Spanish coup of July 1936
Lleoliad
Penrhyn Iberia
Yn cynnwys
1936 Mondragón massacre, 1937 La Fatarella massacre
Lleoliad yr archif
Thomas Fisher Rare Book Library
Gwladwriaeth
Sbaen
Freebase
/M/075k5
Thesawrws y BNCF
21709
Map o Sbaen yn dangos y sefyllfa yn Awst a Medi 1936. Y rhannau glas yw'r rhan o'r wlad oedd ym meddiant y cenedlaetholwyr ar y dechrau, y rhannau gwyrdd y darnau a enillwyd ganddynt, a'r rhannau coch y rhan o Sbaen oedd ym meddiant y llywodraeth weriniaethol.
Map o Sbaen yn dangos y sefyllfa yn Awst a Medi 1936. Y rhannau glas yw'r rhan o'r wlad oedd ym meddiant y cenedlaetholwyr ar y dechrau, y rhannau gwyrdd y darnau a enillwyd ganddynt, a'r rhannau coch y rhan o Sbaen oedd ym meddiant y llywodraeth weriniaethol.

Ystyrir Rhyfel Cartref Sbaen (17 Gorffennaf 1936 - 1 Ebrill 1939) yn fath o ragarweiniad i'r Ail Ryfel Byd, gan iddo roi cyfle i'r Almaen, Yr Eidal a'r Undeb Sofietaidd brofi eu harfau.

Ar y 12 Gorffennaf 1936, llofruddiwyd un o wyr y chwith, José Castillo gan y Ffalangiaid. Y diwrnod wedyn dialodd y chwith am hyn trwy ladd José Calvo Sotelo, arweinydd yr wrthblaid. Yn dilyn hyn ceisiodd grŵp o swyddogion y fyddin gipio grym.

Y prif arweinwyr ymhlith y swyddogion a geisiodd gipio grym oedd José Sanjurjo, Emilio Mola a Francisco Franco. José Sanjurjo oedd wedi ei fwriadu fel yr arweinydd, ond fe'i lladdwyd mewn damwain awyren wrth hedfan o Bortiwgal i Sbaen, a daeth Franco yn arweinydd. Ar yr ochr arall, Arlywydd y Weriniaeth am y rhan fwyaf o'r rhyfel oedd Manuel Azaña, rhyddfrydwr gwrth-glerigol. Yr arweinwyr eraill oedd Francisco Largo Caballero ac yna o fis Mai 1937 ymlaen Juan Negrín, y ddau yn sosialwyr.

Cynlluniwyd ymdrech swyddogion y fyddin ym Morocco. Ar fore 17 Gorffennaf dechreuasant trwy gipio Melilla. Llwyddasant i gipio rhan o Sbaen yn syth (gweler y map) ond llwyddodd y llywodraeth i ffurfio grwpiau milisia i ymladd trostynt. Roedd y grwpiau yma yn cynnwys sosialwyr, comiwnyddion ac anarchwyr ymhlith eraill. Cyfeirir at y grwpiau oedd yn ymladd dros y llywodraeth fel y Gweriniaethwyr. Cyfeirir at y grwpiau adain-dde oedd yn cefnogi ymdrech Franco a'i gyd-swyddogion fel y Cenedlaetholwyr, ac roedd y rhain yn cynnwys y Ffalangiaid ac eraill.

Tair mlynedd o ryfela

Parhaodd yr ymladd am dair blynedd. Cafodd y cenedlaetholwyr gymorth gan yr Almaen a'r Eidal, tra cafodd y gweriniaethwyr gymorth gan yr Undeb Sofietaidd. Arhosodd y Deyrnas Unedig a Ffrainc yn niwtral, ond ymladdodd cryn nifer o'u dinasyddion dros y weriniaeth fel gwirfoddolwyr yn y Brigadau Rhyngwladol, yn eu plith nifer o Gymry.

Ymhlith erchyllderau y rhyfel, un o'r enwocaf oedd bomio dinas Guernica gan awyrennau yr Almaen, a goffhawyd gan Pablo Picasso yn ei ddarlun o'r un enw. Yn nyddiau cyntaf y rhyfel saethwyd tua 50,000 o bobl oherwydd iddynt gael eu dal yn y rhan o'r wlad oedd ym meddiant eu gwrthwynebwyr gwleidyddol. Yn eu plith yr oedd y bardd a'r dramodydd Federico García Lorca a saethwyd gan y Ffalangwyr yn Granada.

Yn y rhannau oedd yn perthyn i'r weriniaeth, yn enwedig lle'r oedd yr anarchwyr mewn grym, megis Aragón a Chatalwnia, newidiwyd dull byw merched Sbaen yn sylweddol iawn.

Yn y diwedd llwyddodd y cenedlaetholwyr i goncro gweddill Sbaen, er i'r gweriniaethwyr ymladd yn ffyrnig. Credir i tua 500,000 o bobl gael eu lladd yn y rhyfel. Daeth Franco i rym, a rheolodd Sbaen tan ei farwolaeth.

Cymru a'r Rhyfel

Dan arweiniad Ffederasiwn Glowyr De Cymru, a'r Blaid Gomiwnyddol, cafwyd cefnogaeth yng Nghymru at Lywodraeth Weriniaethol etholedig y ffrynt Boblogaidd yn Sbaen ar ôl i fyddin Franco ymosod ar y llywodraeth honno. Ymunodd 174 o Gymry â byddin y weriniaeth ac un yn unig dros Franco. O Rondda Cynon Taf y deuai'r rhan fwyaf, ardal lofaol, a daeth nifer hefyd o ardal lofaol Gogledd Cymru ac o gefn gwlad. Lladdwyd 33 ohonynt. Roedd y chwerwder a ddilynodd Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926 a'u cefndir Comiwnyddol neu Sosialaidd yn gryf yn y dynion hyn, a gallent gyd-deimlo â dymuniad y gweriniaethwyr i ddileu yr anghyfartaledd rhwng dosbarth gweithiol a dosbarth uwch y tirfeddiannwyr a'r perchnogion ariannog.

Yn dilyn arweiniad David Lloyd George ac academyddion prifysgolion, sefydlwyd cymdeithasau i groesawu plant ffoaduriaid o Wlad y Basg. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o Gymru, fodd bynnag, gyda Franco yr ochrai Saunders Lewis.

Read next

In 118 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article