Proxima Centauri yw'r seren agosaf i Gysawd yr Haul, yn 4.2 blwyddyn golau i ffwrdd. Cafodd ei darganfod yn 1915 gan y seryddwr Robert Innes, ac mae'n debyg ei bod yn gysylltiedig â'r sustem Alpha Centauri, sydd yn cynnwys dwy seren, Alpha Centauri A ac Alpha Centauri B.
Yn 2016 darganfuwyd fod o leiaf un planed, Proxima b, yn cylchdroi'r seren. Nid oedd chwiliadau blaenorol am blanedau yn llwyddiannus, gan ddiystyru presenoldeb corachod brown a phlanedau anferthol. Mae arolygon manwl yn mesur cyflymder rheiddiol hefyd wedi diystyru planedau "Uwch-Ddaear" (Super-Earths) o fewn parth trigiadwy y seren. Fe fydd darganfod gwrthrychau llai yn dibynnu ar offer newydd, fel Telesgop Gofod James Webb, sydd i'w lansio yn 2018. Oherwydd fod Proxima Centauri yn gorrach coch a seren ffagliol, mae dadl ynghylch a fyddai planed sy'n cylchdroi'r seren yn gallu cynnal bywyd. Er hynny, oherwydd ei agosrwydd i'r Ddaear, mae awgrym y gallai fod yn gyrchfan ar gyfer teithio rhyngserol.
