factograf
CY

actores a aned yn 1991

Pixie Lott

Pixie Lott

Key facts

dyddiad geni12 Ionawr 1991
galwedigaethactor, cerddor, canwr-gyfansoddwr
man geniLlundain
genrecerddoriaeth boblogaidd
All data from the card 9
Ffugenw
Pixie Lott
Ganwyd
Victoria Louise Lott 12 Ionawr 1991 Llundain
Label recordio
Mercury Records
Dinasyddiaeth
y Deyrnas Unedig
Alma mater
Italia Conti Academy of Theatre ArtsBrentwood County High School
Galwedigaeth
actor, cerddor, canwr-gyfansoddwr, canwr, actor llwyfan, actor ffilm, artist recordio, cyfansoddwr, canwr pop
Arddull
cerddoriaeth boblogaidd
Math o lais
mezzo-soprano
Gwefan
http://www.pixielott.com, http://pixielott.com/

Cantores ac actores Seisnig ydy Pixie Lott (ganed 12 Ionawr 1991). Arwyddodd gytundeb gyda Mercury Records yn y Deyrnas Unedig a label Interscope yn America.

Cafodd ei chân gyntaf ei rhyddhau i'w lawrlwytho ar 6 Mehefin 2009 ac ar ffurf sengl ar 8 Mehefin. Aeth y gân i rif un y siartiau ar 14 Mehefin 2009.

Bywyd Cynnar

Ganwyd Lott yn Bromley, yn ne-ddwyrain Llundain. Mae'n byw yn Essex gyda'i thad, sy'n werthwr cyfranddaliadau, a'i mam sy'n wraig tŷ; mae ganddi frawd a chwaer hŷn. Rhoddwyd y ffugenw "Pixie" iddi am ei bod yn "faban bychan, ciwt" a edrychai fel tylwyth teg..

Wedi iddi ddechrau canu yn ei hysgol eglwysig, mynychodd Lott ysgol Sadwrn "Italia Conti Associates" yn Chislehurst pan oedd yn bum mlwydd oed. Pan symudodd ei theulu i Essex parhaodd trwy fynd i brif ysgol "Italia Conti Academy of Theatre Arts", lle derbyniodd ysgoloriaeth. Tra'n fyfyriwr yno, ymddangosodd yng nghynhyrchiad y West End o Chitty Chitty Bang Bang ym Mhaladiwm Llundain, ac yn rhaglen BBC One "Celebrate the Sound of Music" lle chwaraeodd rhan Louisa von Trapp. Pan oedd yn 14 oed, roedd yn rhan o'r llinell gorws, gan recordio'r elfen leisiol yn opera Roger Waters Ça Ira.

Ymddangosiadau ffilm a theledu

  • 2005: Celebrate the Sound of Music (BBC One) — Louisa von Trapp
  • 2007: Genie in the House (Nickelodeon) — cantores/dawnswraig
  • 2009: Alan Carr: Chatty Man (Channel 4)
  • 2009: Y Loteri Genedlaethol (BBC One)

Disgograffiaeth

Albymau stiwdio

Blwyddyn Teitl Safle uchaf yn y siart
DU Iwerddon Iseldiroedd Seland Newydd
2009 Turn It Up
  • Albwm stiwdio cyntaf
  • Rhyddhawyd: 14 Medi 2009
  • Label: Mercury
6 18 92 30

Dolenni allanol

  • Oriel a newyddion Pixie Lott Archifwyd 2009-10-03 yn y Peiriant Wayback
  • Cyfweliad gyda Pixie yn LottVexedMag
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Read next

In 45 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article