factograf
CY

cromlech Geltaidd ger Nanhyfer, Sir Benfro

Pentre Ifan

Pentre Ifan

Key facts

dechreuwyd3500 BC
enghraifft o'r canlynolcromlech
gwladwriaethy Deyrnas Unedig
lleolir yn yr ardal weinyddolNanhyfer
All data from the card 11
Math
cromlech
Sefydlwyd
3500 (yn y Calendr Iwliaidd) CC
Ardal warchodol
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Lleoliad
Nanhyfer
Gwlad
Cymru
Cyfesurynnau
51.999°N 4.77°W
Rheolir gan
Cadw
Perchnogaeth
Cadw
Statws treftadaeth
heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru
Deunydd
carreg
Dynodwr Cadw
PE008

Pentre Ifan yw cromlech fwyaf Cymru. Saif yng nghymuned Nanhyfer, Sir Benfro, rhyw 2 km o bentref Nanhyfer a 17 km o Aberteifi.

Mae'r gromlech, sydd yng ngofal Cadw, yn dyddio o tua 3500 CC., ac yn wreiddiol roedd wedi ei gorchuddio gan domen o gerrig tua 36 m o hyd i ffurfio siambr gladdu. Mae'r maen capan yn 5.1 m o hyd, ac yn pwyso tua in 16 tunnell.

Mae amlinelliad yr henebyn, sydd wedi'i gloddio gan archaeolegwyr, yn dangos fod ei ben blaen ar ffurf cilgant gyda phorth uchel a bod y domen o gerrig yn culhau yn y cefn. Mae hyn yn siâp anghyffredin yng Nghymru, ond ceir siambrau claddu cyffelyb yn ne-orllewin yr Alban. Mae'r cyfan yn gorwedd ar echel ogledd - de.

Darganfuwyd olion tyllau rheolaidd ar ei ymyl a rhesi o gerrig bychain a oedd efallai o arwyddocâd defodol fel rhan o gwlt y meirw.

Gwersyll yr Urdd

Yn 2023 agorodd Urdd Gobaith Cymru wersyll newydd ger safle cromlech Pentre Ifan. Mae Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan wedi ei henwi ar ôl y gromlech. Mae'n llai na'r chwaer gwersylloedd yn Llangrannog neu Glan-llyn ac wedi ei teilwrio at arddegwyr hŷn a phobl ifainc.

Cyfeiriadau

Pentre Ifan
Pentre Ifan
Llun o ongl wahanol
Llun o ongl wahanol
Adluniad o'r siambr gladdu wreiddiol.
Adluniad o'r siambr gladdu wreiddiol.
3 images
  • Christopher Houlder, Wales: An Archaeological Guide (Llundain, 1978)

Read next

In 18 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article