factograf
CY
Sign in

tref ym Mhwrdeistref Lleol Drakenstein

Paarl

Paarl
All data from the card 8
Math
tref, dinas fawr
Poblogaeth
112,045
Sefydlwyd
1657
Gwlad
De Affrica
Arwynebedd
65 km²
Uwch y môr
132 metr
Cyfesurynnau
33.72417°S 18.95583°E
Cod post
7646, 7620
256 Stryd Fawr, Paarl
256 Stryd Fawr, Paarl
Prif swyddfa cynhychwyr gwin, KWV yn Paarl
Prif swyddfa cynhychwyr gwin, KWV yn Paarl
2 images

Daw Paarl o'r gair Parel, sef, 'perl' yn Iseldireg). Mae'n ddinas (gyda'i threflannau) â phoblogaeth o 191,013 yn nhalaith y Wes Kaaps (Gorllewin y Penrhyn / Western Cape) yn Ne Affrica.

Dyma'r drydedd dref hynaf yn Ne Affrica ar ôl Tref y Penrhyn (Kaapstad/Cape Town) a Stellenbosch, a hi yw'r dref fwyaf yn nhiroedd gwinllanau De Affrica. Mae'r dref, i bob pwrpas bellach wedi ei huno gyda threflan Mbekweni, ac mae'n uned drefol gyda Wellington. Lleolir Paarl oddeutu 60 cilometr (37 mi) i'r gogledd ddwyrain o Kaapstad ac mae'n enwog am ei harddwch naturiol a thraddodiad gwinllanol a thyfu ffrwythau.

Er mai dyma sedd Cyngor Bwrdeisdref Drakenstein, ac nid o ardal fetropolitan Kaapstad, mae'n cwympo o fewn ardal economaidd y ddinas honno. Mae Paarl yn anarferol yn Ne Affrica gan bod ei henw'n cael ei ynganunu'n wahanol yn y Saesneg a'r Afrikaans. Bydd y Afrikaans yn aml yn rhoi'r fannod cyn yr enw gan ddweud, in die Paarl neu in die Pêrel ("yn y Paarl"), yn hytrach nag in Paarl.

Hanes

Brodorion cynharaf ardal Paar oedd y Khoikhoi a San. Trigai'r KhoiKhoi y Penrhyn a'r Cochoqua yn ardal dyffryn afon Berg. Roedd y Cochaqua yn magu gwartheg ac ymysg y cyfoethocaf o'r llwythi Khoi a rhwng 16-18,000 mewn nifer gan alw Mynydd Paarl yn 'Fynydd y Crwban'.

Sefydlodd Vereenigde Oost-Indische Compagnie o dan arweinyddiaeth Jan van Riebeeck berthynas masnachu cig gyda'r KhoiKhoi ar hyd arfordir bae Tafelsberg (Table Mountain). Yn 1657, wrth chwilio am berthnasau masnachu newydd yn y berfeddwlad, gwelodd yr Iseldirwr, Abraham Gabemma, graig gwenithfaen anferth yn disgleirio yn yr heulwen wedi storm law a'i alw'n "de Diamondt en de Peerlberg" ("Mynydd Diamwnt a Pherl") gan roi enw i dref Paarl. Gabemma (sillefir yn aml fel Gabbema) oedd Fiscal (trysorydd cyhoeddus) aneddiadau arfordir y Tafelberg. Gollyngwyd y "diamwnt" o'r enw, a daeth y graig i'w hadnabod yn syml fel y Graig neu Fynydd Perl.

Yn 1687, rhoddodd y Llywodraethwr Simon van der Stel yr hawl i'r ffermydd cyntaf yn yr ardal i'r 'berdeiswyr rhydd' ("free burghers"). Y flwyddyn ganlynol, cyrhaeddodd yr Hiwgonotiaid Ffrengig ar y Penrhyn a glwadychu'r ffermydd yn yr ardal. Rhoddodd y tir ffrwythlon a'r hinsawdd tebyg i Fôr y Canoldir amlgychiadau rhagorol ar gyfer ffermio. Planodd y gwladychwyr perllannau, ffrwythau, llysiau a gerddi a'r gwinllanoedd enwog. Gydag hynny datblygodd traddodiad hir Paarl fel canolfan frwythau a gwin De Affrica.

Arweinodd y gwladychu Ewropeaidd ar wrthdarro gyda'r Khoikhoi dros dir a dŵr ac wrth i ddull o dir cymunedol y KhoiKhoi ddod yn erbyn arfer y gwladychwyr o dir preifat. Trechwyd y Khoi mewn rhyfeloedd lleol ac fe'i difarwyd gan afiechydon y dyn gwyn. Ffodd llawer o'r boblogaeth yn bellach i fewn i'r berfeddwlad tuag at yr Afon Oren (Orange River) neu daethant yn lafurwyr taeog ar y ffermydd.

Demograffeg

Yn ôl cyfrifiad 2001 De Affrica roedd poblogaeth Paarl yn 82,713 (yn y dref ei hun) mewn 20,138 cartref, ac ardal 32.2 metr sgcilowar (12.4 mi sgw). Roedd 67.8% o'r trigolion yn disgrifio eu hunain fel 'Lliw' (Kaapse Kleurlinge; Cape Coloureds), 21.2% fel 'gwyn', 10.5% fel 'du', a 0.5% fel Indiaidd neu De Ddwyrain Asia. Afrikaans oedd iaith gyntaf 85.5% o'r bobl, siaradai 8.5% Xhosa, a 5.2% yn siarad Saesneg.

Yn 2011 y sefyllfa oedd: Poblogaeth o 112,045; 69.89% yn 'lliw'; 17.90% gwyn; 10.35% du.

Afrikaans oedd prif iaith 86.81% o'r boblogaeth, a Saesneg yn 6.1%.

Atyniadau twristaidd

Craig Paarl
Craig Paarl
Craig Paarl gyda'r dref tu ôl iddi a phegwn Du Toit's Peak drachefn
Craig Paarl gyda'r dref tu ôl iddi a phegwn Du Toit's Peak drachefn
Afrikaanse Taalmonument yn Paarl
Afrikaanse Taalmonument yn Paarl
3 images

Mae Paarl, fel nifer o drefi yn ardal y Gwinllaannodd yn gymuned gyfoethog gyda phensaernïaeth tai fferm Iseldireg, gerddi cymen a strydoedd deiliog.

Ceir sawl atyniad unigryw yn Paarl: yn y dref hon sefydlwyd seiliau'r iaith Afrikaans fel iaith lenyddol a swyddogol gan sefydlu mudiad iaith y Genootskap van Regte Afrikaners. Lleolir y gofeb i'r iaith Afrikaans, y Taalmonument ar lethrau Mynydd Paarl lle lleolir yr amgueddfa iaith (Taalmuseum) a'r llwybr iaith Afrikaans trwy Dal Josaphat sy'n dysteb i lwyddiant y mudiad iaith.

Ceir hefyd cyn bencadlys y gymdeithas gydweithredol gwinllanoedd y KWV. Enillodd y KWV enw iddi hyn fel arbenigwyr a safon ei chynhyrchu gwin.

Dolenni allanol

Read next

In 35 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article