Mae PFC Ludogorets Razgrad (Bwlgareg: Професионален Футболен Клуб „Лудогорец 1945", trawslythreniad Cymraeg: Proffesionalen Ffwtbolen Clwb 'Ludogorets' 1945), a elwir yn gyffredin yn Ludogorets, yn glwb pêl-droed sydd wedi'i leoli yn Rasgrad, Bwlgaria. Yn 2025 roedd y clwb yn cystadlu yn Uwch Gynghrair Bwlgaria.
Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref yn y Huvepharma Arena.
Mae Ludogorets wedi ennill pob un teitl cynghrair ers iddynt gael eu dyrchafu i'r adran uchaf yn 2011. Mae'r clwb wedi sefydlu ei hun fel grym dominyddol ym mhêl-droed Bwlgaria.
