


Pentref ar arfordir deheuol Penrhyn Gŵyr yn Sir Abertawe yw Oxwich ( ynganiad). Saif yng nghymuned Pen-rhys. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo.
Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r 13eg a'r 14g, i Sant Illtud. Gerllaw'r pentref mae traeth Bae Oxwich, Castell Oxwich, sy'n dyddio o gyfnod y Tuduriaid, a Chastell Pen-rhys. Yma hefyd mae gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich. Mae Oxwich yn gyrchfan boblogaidd iawn i ymwelwyr, a cheir nifer o westai yma yn ogystal â maes carafannau.
Enwogion
- William Lucas Collins (1815-1887), offeiriad Eglwys Loegr ac awdur Cymreig.
Cyfeiriadau
Dinas
Abertawe
Trefi
Casllwchwr · Clydach · Gorseinon · Pontarddulais · Treforys · Tre-gŵyr
Pentrefi
Burry Green · Cadle · Crofty · Dyfnant · Fforest-fach · Garnswllt · Y Gellifedw · Y Glais · Llandeilo Ferwallt · Llanddewi · Llangyfelach · Llangynydd · Llanilltud Gŵyr · Llanmorlais · Llanrhidian · Llan-y-tair-mair · Y Mwmbwls · Nicholaston · Oxwich · Pen-clawdd · Pengelli · Pennard · Pentre Poeth · Pont-lliw · Port Einon · Reynoldston · Rhosili · Sgeti · Y Crwys · Ynysdawe · Ynysforgan · Ystumllwynarth
