factograf
CY

Opteg

Opteg
All data from the card 5
Enghraifft o:
cangen o ffiseg, maes gwaith, sector economaidd
Math
gwyddorau naturiol
Rhan o
ffiseg
Freebase
/M/05mn2
Thesawrws y BNCF
10814
Dalen allan o wyddoniadur Cyclopaedia, 1728, yn dangos dyfeisiadau optegol.
Dalen allan o wyddoniadur Cyclopaedia, 1728, yn dangos dyfeisiadau optegol.

Opteg yw'r gangen o ffiseg sy'n ymwneud â nodweddion ac ymddygiad golau a'i berthynas â mater. Mae hefyd yn ymwneud â dyfeisiadau ac offer optig sydd naill ai'n defnyddio golau neu'n ei synhwyro. Gall 'opteg' gyfeirio at nodweddion golau gweladwy, uwchfioled a phelydrau isgoch. Gan fod golau'n donnau electromagnetig, ceir nodweddion digon tebyg gan ymbelydredd electromagnetig eraill e.e. pelydr-X, microdonnau a thonnau radio.

Gellir deall y rhan fwyaf o ffenomenâu optegol drwy'r ddefnyddio electromagneteg clasurol i ddisgrifio neu ddiffinio golau, ond yn ymarferol, mae'n anodd cael y llun cyflawn. Mae opteg ymarferol yn cael ei gyflawni drwy'r defnydd o fodelau syml. Y mwyaf cyffredin o'r rhain yw opteg geometrig, sy'n trin golau fel casgliad o donnau sy'n teithio mewn llinellau syth ac sy'n plygu pan maent naill ai'n cael eu hadlewyrchu neu'n treiddio drwy gwrthrychau. Mae opteg ffisegol, fodd bynnag, yn fodel llawer mwy cyflawn a chynhwysfawr, na ellir ei brofi drwy opteg geometrig. Yn hanesyddol, y dull-pelydrau ddaeth yn gyntaf a'r model dull-tonnau wrth ei sodlau. Datblygwyd y syniadau hyn yn y 19g, nes y darganfuwyd fod tonnau golau mewn gwirionedd yn ymbelydredd electromagnetig.

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am opteg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Read next

In 113 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article