factograf
CY
Sign in

Nissan

Nissan

Key facts

dechreuwyd26 Rhagfyr 1933
enghraifft o'r canlynolcwmni cyhoeddus, cynhyrchydd cerbydau
gwladwriaethJapan
sylfaenyddYoshisuke Aikawa
lleolir yn yr ardal weinyddolYokohama
All data from the card 19
Math
brand
Math o fusnes
kabushiki gaisha (math o gwmni)
Aelod o'r canlynol
CHAdeMO Association
ISIN
JP3672400003
Diwydiant
diwydiant ceir
Sefydlwyd
26 Rhagfyr 1933
Sefydlydd
Yoshisuke Aikawa, Den Kenjirō, William R. Gorham
Aelod o'r canlynol
CHAdeMO Association, Wi-Fi Alliance
Pencadlys
Yokohama
Pobl allweddol
Makoto Uchida (Prif Weithredwr)
Cynnyrch
lori
Refeniw
11,951,169,000,000 yen (2018)
Incwm gweithredol
574,760,000,000 yen (2018)
Cyfanswm yr asedau
18,746,901,000,000 yen (31 Mawrth 2018)
Perchnogion
Renault (0.434), Mercedes-Benz Group (0.0332)
Nifer a gyflogir
136,134 (2020)
Rhiant-gwmni
Renault
Is gwmni/au
Jatco
Lle ffurfio
Yokohama
Nissan Altima, 2013
Nissan Altima, 2013

Cwmni rhyngwladol sy'n arbenigo mewn gwneud ceir ydy Nissan Motor Corporation (日産自動車株式会社 Nissan Jidōsha Kabushiki-gaisha), a dalfyrir fel arfer i Nissan ( neu Saesneg Prydain:; Japanese: ), sydd a'i bencadlys yn Nishi-ku, Yokohama, Japan.

Ers 1999, mae Nissan wedi bod yn bartner o fewn y Renault–Nissan Alliance, ar y cyd gyda'r cwmni Renault o Ffrainc. Yn 2013 roedd gan Renault 43.4% o'r cyfranddaliadau / bleidlais ac roedd gan Nissan 15% o hawliau dibleidlais yn Renault. Carlos Ghosn yw Prif Weithredwr y ddau gwmni.

Mae Nissan Motor Corporation yn gwerthu ceir o dan yr enwau Nissan, Infiniti, Datsun, a NISMO.

Yn 2013 Nissan oedd y chweched gwneuthurwr ceir mwya'n y byd, ar ôl Toyota, General Motors, Volkswagen Group, Hyundai Motor Group, a Ford. Gyda Renault, y gynghrair Renault–Nissan ydy'r pedwerydd mwyaf. Nissan yw'r cwmni ceir mwyaf yn tsieina, Rwsia a Mecsico.

Yn 2020, Nissan oedd gwneuthurwr cerbydau trydan (EV) mwyaf y byd, gyda gwerthiant byd-eang o fwy na 320,000 o gerbydau trydan cyfan ym mis Ebrill 2018. Nissan, hefyd sy'n gyfrifol am wneud y car trydan Nissan Leaf a lawnsiwyd yn 2000, sef y car trydan a oedd wedi gwerthu mwyaf hyd at 2014.

Hanes

Nissan Model 70 Phaeton, 1938
Nissan Model 70 Phaeton, 1938
Pencadlys Nissan yn Nishi-ku, Yokohama
Pencadlys Nissan yn Nishi-ku, Yokohama
2 images

Sefydlu Datsun yn 1914

Sefydlodd Masujiro Hashimoto y Kwaishinsha Motor Car Works - yn 1911. Yn 1914, cynhyrchwyd y car cyntaf gan y cwmni, a galwyd ef yn DAT.

Acxronym oedd yr enw o enwau tri teulu a oedd wedi buddsoddi yn y cwmni:

  • Kenjiro Den (田 健次郎 Den Kenjirō)
  • Rokuro Aoyama (青山 禄郎 Aoyama Rokurō)
  • Meitaro Takeuchi (竹内 明太郎 Takeuchi Meitarō)

Ail-fedyddiwyd y car yn Kwaishinsha Motorcar Co., Ltd. yn 1918, ac eilwaith yn 1925 i DAT Jidosha & Co., Ltd. (DAT Motorcar Co.).

Ceir trydan Nissan

Ymddangosodd car trydan cyntaf Nissan yn 1947; yn 2020 roedd y cwmni'n dathlu 20 mlynedd o lwyddiant y Nissan LEAF. Eu car diweddaraf, a ymddangosodd yn 2021 yw'r Nissan Ariya, sy'n 87kWh ac yn medru teithio 320 milltir ar un llond batri.

  • 1947 - y Tama: 21 milltir; car dwy sedd; pellter o 40 milltir
  • 1970 - 315X: brecio atgynhyrchiol (taro'r brec yn cynhyrchu trydan - mae'r dechnoleg yma'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw)
  • 1983 - Mawrth EV: y car cyntaf i ddefnyddiwyd modur anwythiad (induction motor) i'w yrru
  • 1995 - FEV II: talfyriad o 'Future Electric Vehicles' a'r car Nissan cyntaf i ddefnyddio batri lithiwm-ion
  • 2005 - NUVU: car bychan, a rhagflas o'r Nissan LEAF; 77 milltir ar un gwefriad
  • 2010 - Nissan LEAF: car cyntaf Nissan i ddibynnu'n gyfangwbwl ar drydan, gyda phellter o 109 milltir (ffigwr gan NEDC)
  • 2020 - Nissan LEAF E+: 239 milltir (WLTP); 90 munud i wefru hyd at 80% o'r batri; > 340 trorym (torque)
  • 2021 - Nissan Ariya; 310 milltir; gyrriant 4 olwyn

Read next

In 85 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article