Arwydd neu rybudd pendant o afiechyd niwrolegol yw microceffaliy, ond oherwydd nad yw gwyddoniaeth hyd yma'n ei ddeall yn iawn, nid oes un diffiniad absoliwt o'r afiechyd, hyd yma (2016). Mae microceffali fel arfer yn cyfeirio at benglog llai na'r cyffredin.
Gall fod yn gynhwynol (h.y wedi ei amlygu cyn yr enedigaeth) neu fe all ddatblygu wedi'r enedigaeth. Mae'n bosibl fod penglog llai na'r cyffredin yn digwydd gan nad yw'r ymennydd wedi datblygu i'w lawn dwf, neu o syndrom a gysylltir gyda chromosomau abnormal. Mae bosibl mai mwtad homozygous o fewn un o'r genynnau microceffalin sy'n achosi microceffali.
Wedi i'r Unol Daleithiau America ffrwydro bomiau atomig "Little Boy" ar Hiroshima a "Fat Man" ar Nagasaki, esgorodd nifer o ferched ar blant a oedd yn dioddef o microceffali. Microceffali yw'r unig 'afiechyd' genynnol a ganfyddwyd ym mhlant Hiroshima a Nagasaki. Yn Ionawr 2016 credid bod cysylltiad rhwng y firws Zika (a achosodd Epidemig 2015-2016 a phlant a anwyd gyda microceffali. Cludir y firws i ferched beichiog gan y mosgito Aedes aegypti ac eraill a thrwy ryw.
Symtomau

Mae'r plentyn newyddanedig sydd â microceffali arno yn amlwg yn wahanol, o ran siâp ei ben. Yn sgil hyn mae diffygion deallusol yn gyffredin. Effeithir symudiadau hefyd, ymhen hir a hwyr. Er gwaetha cyfyngiad ym maint siâp y pen, mae'r wyneb yn parhau i dyfu'n normal, heb lawer o dalcen. Yn ystod glasoed, mae cymhareb pen/taldra'r corff yn cael ei hamlygu h.y. mae'n fwyfwy amlwg fod y pen yn llai nag arfer; gall ymdebygu i gorrach. Yn aml, mae llafaredd yn datblygu'n hwyrach nag arfer.
Geirdarddiad
Daw'r gair o'r Lladin Newydd microceffalia, sydd a'i wreiddiau yn yr Hen Roeg μικρός mikrós "bach" a κεφαλή kephalé "pen"). Ystyr llythrennol "microencephaly" felly yw "pen bach".
Dolenni allanol
- Microceffali ar wefan National Institute of Neurological Disorders and Stroke
- Microcephaly Support Group Archifwyd 2016-02-07 yn y Peiriant Wayback
- The Rat People of Pakistan
- NINDS Overview Archifwyd 2008-09-20 yn y Peiriant Wayback
- Schlitzie The Pinhead
