Gwleidydd o Frasil yw Michel Miguel Elias Temer Lulia (ganwyd 23 Medi 1940) a oedd yn Arlywydd Brasil o 2016 i 2019.
Cafodd ei ddewis yn gydymgeisydd i Dilma Rousseff yn etholiad arlywyddol 2010, a chafodd Rousseff ei hethol yn arlywydd a Temer yn is-arlywydd gyda 46.91% yn y rownd gyntaf a 56.05% yn yr ail rownd. Daeth Temer yn arlywydd dros dro yn sgil uchelgyhuddiad Rousseff ar 12 Mai 2016. Daeth yn arlywydd yn swyddogol ar 31 Awst. Daeth ei gyfnod yn y swydd i ben ar 1 Ionawr 2019, pan drosglwyddwyd yr arlywyddiaeth i Jair Bolsonaro, enillydd etholiad arlywyddol 2018.
