Ffilm deledu BBC yw Men Up a ddarlledwyd gyntaf yn 2023. Testun y ffilm yw'r treialon clinigol cyntaf erioed ar gyfer y cyffur Viagra, a gynhaliwyd yn Abertawe ym 1994. Mae Russell T Davies yn un o'r cynhyrchwyr gweithredol. Mae'r ffilm yn serennu Aneurin Barnard, Alexandra Roach, Phaldut Sharma, Iwan Rheon, Steffan Rhodri a Joanna Page.
Cynhyrchu
Ysgrifennwyd y rhaglen gan Matthew Barry. Y cynhyrchwyr gweithredol yw Nicola Shindler a Davina Earl ar gyfer Quay Street Productions, Rachel Evans ar gyfer Boom, Matthew Barry, Russell T Davies a Rebecca Ferguson ar gyfer y BBC. Cyfarwyddir Men Up gan Ashley Way a chynhyrchir gan Karen Lewis.