
Gwlad ynysol yng Nghefnfor India yw Gweriniaeth Mawrisiws. Mae'r wlad yn cynnwys Rodrigues (560 km i'r dwyrain o'r brif ynys), Cargados Carajos (300 km i'r gogledd) ac Ynysoedd Agalega (1,100 km i'r gogledd).
Saesneg yw iaith swyddogol Mawrisiws ond mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn siarad Creol Mawrisiws (Morisyen). Siaredir Ffrangeg, ieithoedd India fel Bhojpuri ac ieithoedd Tsieina hefyd.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan Llywodraeth Mawrisiws Archifwyd 2007-03-05 yn y Peiriant Wayback
