factograf
CY
Sign in

Mark Cavendish

Mark Cavendish

Key facts

dyddiad geni21 Mai 1985
uchder175cm
galwedigaethseiclwr trac, seiclwr cystadleuol
man geniDoolish
priodPeta Todd
gwobrau a dderbyniwydGwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC
All data from the card 13
Enw llawn
Mark Simon Cavendish
Llysenw
"Manx Missile", "Cav"
Dyddiad geni
21 Mai 1985
Taldra
1.75m
Pwysau
69kg
Disgyblaeth
Ffordd a Thrac
Rôl
Reidiwr
Math seiclwr
Gwibiwr
2005-2006
Sparkasse
2006-2011
T-Mobile Team
2012
Team Sky
2013-2015
Omega Pharma–Quick-Step
2016-
Team Dimension Data

Beiciwr proffesiynol o Ynys Manaw ydy Mark Simon Cavendish, MBE (ganwyd 21 Mai 1985) sy'n aelod o dîm Team Dimension Data. Mae Cavendish wedi ennill 30 o gymalau yn y Tour de France, sy'n ei roi'n ail ar y rhestr o feicwyr â'r nifer fwyaf o fuddugoliuaethau. Yn 2011 llwyddodd i ennill Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd, UCI yn Copenhagen, Denmarc, y Prydain Fawr cyntaf i ennill y crys enfys ers Tom Simpson ym 1965.

Dechreuodd ei yrfa ar y trac gan ennill y madison ym Mhencampwriaethau Trac y Byd yn Los Angeles, Unol Daleithiau America yn 2005 gyda Rob Hayles ac eto yn 2008 ym Manceinion, Prydain Fawr gyda Bradley Wiggins ond mae wedi gwneud ei farc fel gwibiwr mewn rasys ar y lôn.

Yn ogystal â Phencampwriaeth y Byd a 30 cymal yn y Tour de France mae Cavendish wedi ennill ras glasur y Milan–San Remo yn 2009 a hefyd cystadleuaeth y pwyntiau ym mhob un o'r Grand Tours: y Vuelta a España yn 2010, y Tour de France yn 2011 a'r Giro d'Italia yn 2013

Bywyd cynnar a gyrfa amatur

Ganwyd Cavendish yn Douglas, Ynys Manaw, yn fab i David sy'n frodor o'r ynys, ac Adele o Sir Efrog, Lloegr a dechreuodd rasio BMX yng Nghanolfan Chwaraeon Cenedlaethol Ynys Manaw yn Douglas. Llwyddodd i ennill dwy fedal aur yng Ngemau'r Ynysoedd yn Guernsey yn 2003 cyn cael ei le ar raglen Academi British Cycling.

Llwyddodd i ennill y madison ym Mhencampwriaethau Trac y Byd yn Los Angeles, Unol Daleithiau America yn 2005 gyda Rob Hayles yn ogystal â'r Ras bwyntiau ym Mhencampwriaethau Trac Ewrop yn yr un flwyddyn.

Gyrfa broffesiynol

George Hincapie a Cavendish yn ystod trydedd cymal y Tour de France yn 2009
George Hincapie a Cavendish yn ystod trydedd cymal y Tour de France yn 2009
Matthew Goss o Awstralia, Cavendish ac André Greipel o'r Almaen ar y podiwm wedi Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd yn Copenhagen, Denmarc.
Matthew Goss o Awstralia, Cavendish ac André Greipel o'r Almaen ar y podiwm wedi Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd yn Copenhagen, Denmarc.
2 images

2006-2007

Cafodd Cavendish ei le ar dîm Sparkasse o'r Almaen yn 2006 gan gystadlu yn y Tour of Britain lle llwyddodd i ennill cystadleuaeth y pwyntiau. Roedd Sparkasse yn dîm datblygu i dîm T-Mobile ac yn 2007 cafodd gytundeb gyda T-Mobile. Cafodd ei ddewis i rasio yn y Tour de France am y tro cyntaf ond rhoddodd gorau i'r ras yn ystod yr wythfed cymal.

2008

Dychwelodd i'r trac yn 2008 gan ennill y madison ym Mhencampwriaethau Trac y Byd gyda Bradley Wiggins. Ar y lôn, llwyddodd Cavendish i ennill cymal mewn Grand Tour am y tro cyntaf gyda buddugoliaethau yn y Giro d'Italia a'r Tour de France. Gadawodd y Tour de France yn gynnar er mwyn canolbwyntio ar y madison yng Ngemau Olympaidd 2008 yn Beijing, Tsieina, lle roedd disgwyl iddo ef a Wiggins ailgreu eu perfformiad ym Mhencampwriaeth y Byd a chipio'r fedal aur, ond roedd siom wrth i'r pâr orffen yn nawfed. Roedd Cavendish yn credu nad oedd Wiggins wedi perfformio i'r gorau o'i allu.

2009

Yn 2009 cafodd ei ddewis i rasio yn y Milan–San Remo, un o bum prif glasur y calendr beicio. Llwyddodd Cavendish i gwrsio'r gŵr o Awstralia, Heinrich Haussler, a'i guro dros y 200m olaf er mwyn cipio buddugoliaeth fwyaf ei yrfa hyd yma. Ar ddiwrnod cyntaf y Giro d'Italia llwyddodd Team Colombia-High Road i ennill y cymal cyntaf yn erbyn y cloc a cafodd Cavendish wisgo crys y Maglia Rosa fel arweinydd y ras; y gŵr cyntaf o Ynys Manaw i gael yr anrhydedd.

Parhaodd ei lwyddiant yn y Grand Tours wrth iddo ennill cymalau 2, 3, 10, 11, 19 a 21 o'r Tour de France. Wrth ennill y trydedd cymal daeth Cavendish y Prydeiniwr cyntaf i wisgo'r Maillot Vert am ddau ddiwrnod yn olynol ac wrth ennill y 19eg cymal llwyddodd Cavendish i ddod y Prydeiniwr gyda'r nifer fwyaf o fuddugoliaethau mewn cymalau o'r Tour de France.

2010

Dechreuodd Cavendish dymor 2010 yn hwyr oherwydd problemau gyda'i ddanedd ond llwyddodd i wneud ei farc unwaith eto yn y Tour de France. Er cael damwain yng nghyfnod olaf y cymal agoriado llwyddodd Cavendish i ennill cymalau 5, 6, 11, 18 ac 20 er mwyn dod â'i gyfanswm o fuddugoliaethau i bymtheg cymal.

Llwyddodd Cavendish i ychwanegu crys arweinydd y Vuelta a España i'w gasgliad wedi i'w dîm ennill y ras yn erbyn y cloc ar ddiwrnod agoriadol y ras a llwyddodd i ennill cymalau 12, 13 ac 18 a chipio'r gystadleuaeth pwyntiau er mwyn gorffen y tymor ar dân.

2011

Cipiodd Cavendish ddwy gymal o'r Giro d'Italia cyn ychwanegu pum cymal o'r Tour de France i'w gyfanswm o fuddugoliaethau mewn Grand Tour a dod y person cyntaf erioed i ennill y cymal olaf o'r Tour am dair blynedd yn olynol. Llwyddodd hefyd i ennill cystadleuaeth y pwyntiau a dod y Prydeiniwr cyntaf erioed i ennill y maillot vert.

Ar ddiwedd fis Medi roedd Cavendish yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd, UCI yn Copenhagen, Denmarc. Llwyddodd Prydain i reoli'r ras gyda Cavendish yn ennill y gwibiad am y llinell a'r hawl i wisgo'r crys enfys am dymor. Daeth Cavendish yr ail Brydeiniwr i ennill Bencampwriaeth y Byd ar ôl Tom Simpson ym 1965.

2012

Dechreuodd Cavendish y tymor gyda Team Sky a llwyddodd i gipio tair cymal o'r Giro d'Italia ond methodd ag ennill y gystadleuaeth pwyntiau gan orffen yn yr ail safle, un pwynt tu ôl i Joaquim Rodríguez. Llwyddodd i greu hanes yn y Tour de France wrth ennill pedair cymal arall gan gynnwys y cymal olaf ar y Champs-Elysée am y pedwaredd blwyddyn yn olynol a dod y beiciwr cyntaf i ennill ar y Champs-Elysée tra'n gwisgo'r crys enfys. Yn ystod y Tour, cyhoeddodd y papur newydd Ffrengig, L'Equipe mai Cavendish oedd y gwibiwr gorau yn hanes y Tour de France.

Prif nod Cavendish ar gyfer y tmyor oedd y ras lôn yng Ngemau Olympaidd, Llundain ond er gwaethaf ymdrechion tîm cryf Prydain Fawr oedd yn cynnwys Bradley Wiggins, Chris Froome, Ian Stannard a David Millar methodd y tîm rwystro 30 o feicwyr rhag torri'n rhydd o'r peleton. Gorffennodd Cavendish yn 29ain, 40 eiliad tu ôl i'r enillydd Alexander Vinokurov o Casachstan.

Ar 18 Hydref cyhoeddodd Cavendish ei fod yn gadael Team Sky er mwyn ymuno â thîm Omega Pharma-Quick Step o Wlad Belg.

2013

Llwyddodd Cavendish i ennill pum cymal o'r Giro d'Italia - buddugoliaethau oedd yn cynnwys y 100fed buddugoliaeth o'i yrfa broffesiynol a llwyddodd i ennill y gystadleuaeth bwyntiau gan ddod y pumed person erioed i ennill y gystadleuaeth bwyntiau ym mhob un o'r Grand Tours.

Ar 23 Mehefin llwyddodd Cavendish i ennill Pencampwriaeth Prydain am y tro cyntaf yn Glasgow, Yr Alban ac ychwanegodd ddwy gymal arall o'r Tour de France i fynd a'i gyfanswm i 25 o fuddugoliaethau.

Ym mis Medi, llwyddodd Cavendish i ennill dwy gymal o'r Tour of Britain gan gynnwys y bedwaredd cymal oedd yn gorffen yn Llanberis.

2014

Cafodd Cavendish flwyddyn ddistaw gan iddo beidio â chystadlu yn y Giro d'Italia. Yn ystod cymal cyntaf y Tour de France rhwng Leeds a Harrogate yn Sir Efrog, Lloegr cafodd ddamwain welodd o'n ddatgymalu ei ysgwydd a'i orfodi allan o'r ras.

2015

Llwyddodd Cavendish i ennill un cymal yn y Tour de France cyn dychwelyd i'r trac gan ymuno â Bradley Wiggins yn y madison am y tro cyntaf ers Gemau Olympaidd 2008.

Ym mis Medi cafwyd cyhoeddiad fod Cavendish yn arwyddo i Team Dimension Data ar gyfer tymor 2013.

2016

Ar 2 Gorffennaf llwyddodd Cavendish i ennill cymal agoriadol y Tour de France er mwyn gwisgo'r maillot jaune am y tro cyntaf yn ei yrfa.

Dolenni allanol

  • (Saesneg) Gwefan Swyddogol Mark Cavendish

Read next

In 43 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article