factograf
CY
Sign in

MI6

MI6

Key facts

dechreuwyd1909
enghraifft o'r canlynolasiantaeth cudd-wybodaeth
gwladwriaethy Deyrnas Unedig
sylfaenyddMansfield Smith-Cumming
All data from the card 9
Enghraifft o:
asiantaeth cudd-wybodaeth
Dechrau/Sefydlu
1909
Pennaeth y sefydliad
Chief of the Secret Intelligence Service
Sylfaenydd
Mansfield Smith-Cumming
Rhagflaenydd
Directorate of Military Intelligence
Rhiant sefydliad
Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu
Pencadlys
Llundain, Vauxhall Cross
Gwefan
https://sis.gov.uk
Freebase
/M/015tvw

MI6 yw'r enw arferol a roddir ar y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol (Saesneg: Secret Intelligence Service neu'r (SIS)), un o asiantaethau diogelwch y Deyrnas Unedig. Y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol yw asiantaeth cudd-ymchwil allanol y Deyrnas Unedig, sy'n rhan o gymuned cudd-ymchwil y wladwriaeth honno. Mae'n cyd-weithio â'r Gwasanaethau Diogelwch (MI5), Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth a'r Gweithlu Cudd-ymchwil Amddiffyn o dan gyfarwyddyd y Pwyllgor Cudd-ymchwil ar y Cyd (y Joint Intelligence Committee (JIC)). Syr John Scarlett yw'r pennaeth presennol.

Ers 1995, lleolir pencadlys y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol yn Vauxhall Cross ar lan ddeheuol Afon Tafwys, yn Llundain.

Gweithgareddau

Wrth i UDA a'r DU baratoi i oresgyn Irac in 2003, gweithredodd MI6 "Operation Mass Appeal", sef ymgyrch i blannu straeon ffug yng nghyfryngau gwledydd Prydain am arfau dinistriol torfol (WMD) ym meddiant Irac er mwyn cefnogi'r llywodraethau hynny, a oedd yn ceisio defnyddio'r honiad am y WMDau fel esgus cyfreithiol dros y rhyfel yn y Cenhedloedd Unedig. Cafodd yr ymgyrch cudd yma ei ddatguddio gan y Sunday Times yn Rhagfyr 2003. Mae honiadau gan y cyn-swyddog MI6 Scott Ritter yn awgrymu fod yr asiantaeth yn gyfrifol am ymgyrchoedd propaganda cyffelyb yn erbyn Irac ers y 1990au cynnar. Mae Ritter yn dweud bod MI6 wedi ei recriwtio yn 1997 i cynorthwyo'r ymgyrch propaganda. Dywed: "The aim was to convince the public that Iraq was a far greater threat than it actually was." Mae gweithgareddau o'r fath yn mynd yn erbyn rheolau gweithredol MI6 ei hun, am nad yw'n fod i ymyrryd ym materion mewnol y DU.

Dolenni allanol

  • (Saesneg) Gwefan swyddogol
  • (Saesneg) Y gwahaniaeth rhwng MI6 ac MI5
Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Read next

In 68 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article