factograf
CY

polymath Eidalaidd yng nghyfnod y Dadeni

Leonardo da Vinci

Leonardo da Vinci

Key facts

dyddiad geni15 Ebrill 1452
dyddiad marw2 Mai 1519
galwedigaetharlunydd, peiriannydd, seryddwr
cyflogwrLudovico Sforza
gwaith pwysigAddoliad y Doethion
genreportread
All data from the card 10
Ganwyd
Leonardo di ser Piero da Vinci 15 Ebrill 1452 Anchiano
Bu farw
2 Mai 1519 Clos Lucé, Amboise
Man preswyl
Fenis, Fflorens, Rhufain, Fflorens, Milan
Dinasyddiaeth
Gweriniaeth Fflorens
Cyflogwr
Cesare BorgiaLudovico Sforza
Arddull
portread, paentiadau crefyddol, celfyddyd grefyddol
Mudiad
yr Uchel Ddadeni, y Dadeni Dysg
Tad
Piero da Vinci
Mam
Caterina Buti del Vacca
Gwefan
https://leonardodavinci.rf.gd/

Roedd Leonardo di ser Piero da Vinci (15 Ebrill 1452 – 2 Mai 1519) yn bolymath o'r Eidal a oedd yn weithgar fel peintiwr, drafftiwr, peiriannydd, gwyddonydd, damcaniaethwr, cerflunydd a phensaer. Tra bod ei enwogrwydd ar y cychwyn yn dibynnu ar ei waith fel peintiwr, daeth hefyd yn adnabyddus am ei lyfrau nodiadau, lle gwnaeth luniadau a nodiadau ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys anatomeg, seryddiaeth, botaneg, cartograffeg, paentio, a phaleontoleg. Ystyrir yn eang bod Leonardo yn athrylith a oedd yn crynhoi holl ddelfrydau Dyneiddiaeth y Dadeni, a dylanwadodd yn fawr ar genedlaethau o artistiaid hyd at y y presennol.

Mab llwyn a pherth i notari llwyddiannus a gwraig o ddosbarth is yn ardal Vinci oedd Leonardo, a chafodd ei addysg yn Fflorens gan yr arlunydd a'r cerflunydd Eidalaidd Andrea del Verrocchio. Dechreuodd ei yrfa yn y ddinas, ond yna treuliodd lawer o amser yng ngwasanaeth Ludovico Sforza ym Milan. Yn ddiweddarach bu'n gweithio am gyfnod byr yn Rhufain, tra'n denu nifer fawr o ddynwaredwyr a myfyrwyr ato. Ar wahoddiad Francis I, treuliodd ei dair blynedd olaf yn Ffrainc, ac yno y bu farw yn 1519. Ers ei farwolaeth, ni fu amser lle mae ei gyflawniadau, ei ddiddordebau amrywiol, ei fywyd personol, a'i feddwl empirig wedi methu ag ysgogi diddordeb ac edmygedd..

Mae Leonardo yn cael ei gyfri'n un o'r arlunwyr mwyaf yn hanes celf ac yn aml yn cael ei gydnabod fel sylfaenydd Anterth y Dadeni (Hochrenaissance). Er bod ganddo lawer o weithiau coll a llai na 25 o weithiau mawr y priodolir iddo — gan gynnwys nifer o weithiau anorffenedig — creodd rai o'r paentiadau mwyaf dylanwadol yng nghelf y Gorllewin. Ei magnum opus, y Mona Lisa, yw ei waith mwyaf adnabyddus ac fe'i hystyrir yn aml fel paentiad enwocaf y byd. Y Swper Olaf yw'r paentiad crefyddol sydd wedi'i atgynhyrchu fwyaf erioed ac mae ei ddarlun Vitruvian Man hefyd yn cael ei ystyried yn eicon diwylliannol. Yn 2017, gwerthwyd Salvator Mundi, a briodolwyd yn gyfan gwbl neu'n rhannol i Leonardo, mewn arwerthiant am US$450.3 miliwn, gan osod record newydd ar gyfer y paentiad drutaf a werthwyd erioed mewn arwerthiant cyhoeddus.

Caiff ei adnabod am ei ddyfeisgarwch technolegol, gan gynnwys peiriannau hedfan, cerbyd ymladd milwrol, pŵer solar crynodedig, peiriant cymharebu y gellid ei ddefnyddio i gyfrifo, a'i gynllun o long gyda gwaelod dwbwl. Cymharol ychydig o'i ddyluniadau a drowyd yn ddyfeisiadau real yn ystod ei oes, gan nad oedd meteleg a pheirianneg wedi'u datblygu digon yn ystod ei oes. Fodd bynnag, daeth rhai o'i ddyfeisiadau llai i fyd gweithgynhyrchu heb eu cyhoeddi, megis weindiwr bobin otomatig a pheiriant i brofi cryfder gwifren. Gwnaeth ddarganfyddiadau sylweddol mewn anatomeg, peirianneg sifil, hydrodynameg, daeareg, opteg, a thriboleg, ond ni chyhoeddodd ei ganfyddiadau ac ni chawsant fawr ddim dylanwad uniongyrchol ar wyddoniaeth y blynyddoedd dilynol.

Y peintiad cyntaf y gallwn fod yn sicr bod Leonardo wedi cyfrannu ato yng ngweithdy Verrocchio oedd Bedydd Crist [1]. Cyfraniad Leonardo oedd yr angel ar y chwith, sydd yn fwy real na phrif gymeriadau'r llun, sef Iesu Grist a Ioan Fedyddiwr, a'u peintiwyd gan ei athro. Yn ôl y chwedl, ni fentrodd Verrocchio beintio byth eto ar ôl i dalent ei ddisgybl ragori ar ei allu ei hunan.

Bywgraffiad

Man geni posibl a chartref plentyndod Leonardo yn Anchiano, Vinci, yr Eidal
Man geni posibl a chartref plentyndod Leonardo yn Anchiano, Vinci, yr Eidal
Bedydd Crist (1472-1475) gan Verrocchio a Leonardo, Oriel Uffizi
Bedydd Crist (1472-1475) gan Verrocchio a Leonardo, Oriel Uffizi
Addoliad y Doethion c. 1478–1482, Uffizi, Fflorens
Addoliad y Doethion c. 1478–1482, Uffizi, Fflorens
Madonna a'i Phlentyn (Madonna del Garofano), tua 1472–1478, Alte Pinakothek, Munich
Madonna a'i Phlentyn (Madonna del Garofano), tua 1472–1478, Alte Pinakothek, Munich
Ginevra de' Benci, tua 1474–1480, Oriel Gelf Genedlaethol, Washington DC
Ginevra de' Benci, tua 1474–1480, Oriel Gelf Genedlaethol, Washington DC
Benois Madonna, t. 1478–1481, Hermitage, St Petersburg
Benois Madonna, t. 1478–1481, Hermitage, St Petersburg
Amlinelliad o grogi'r mynach Bernardo Bandini Baroncelli, 1479
Amlinelliad o grogi'r mynach Bernardo Bandini Baroncelli, 1479
Pen Gwraig, t. 1483–1485, Llyfrgell Frenhinol Turin
Pen Gwraig, t. 1483–1485, Llyfrgell Frenhinol Turin
Portread o Gerddor, t. 1483–1487, Pinacoteca Ambrosiana, Milan
Portread o Gerddor, t. 1483–1487, Pinacoteca Ambrosiana, Milan
Y Dyn Vitruvian (t. 1485) Accademia, Fenis
Y Dyn Vitruvian (t. 1485) Accademia, Fenis
Ceffyl Leonardo yn silverpoint, t. 1488 [38]
Ceffyl Leonardo yn silverpoint, t. 1488
La Belle Ferronnière, t. 1490–1498
La Belle Ferronnière, t. 1490–1498
12 images

Bywyd cynnar (1452-1472)

Ganed Leonardo da Vinci, a enwyd yn Leonardo di ser Piero da Vinci (Leonardo, mab ser Piero o Vinci), ar 15 Ebrill 1452 yn Vinci, neu'n agos fryn Tysganaidd Vinci. Roedd Fflorens 20 milltir i ffwrdd. Cafodd ei eni y tu allan i briodas i Piero da Vinci (enw llawn: Ser Piero di Antonio di Ser Piero di Ser Guido da Vinci; 1426–1504), notari cyfreithiol o Fflorens, a'i fam Caterina di Meo Lippi (c. 1434 - 1494), a oedd o ddosbarth is, ym meddyliau'r brodorion. Mae'n ansicr lle'n union y ganed Leonardo; yr hanes traddodiadol, o draddodiad llafar lleol a gofnodwyd gan yr hanesydd Emanuele Repetti, yw iddo gael ei eni yn Anchiano, pentrefan gwledig a fyddai wedi cynnig digon o breifatrwydd ar gyfer yr enedigaeth anghyfreithlon, er ei bod yn bosibl o hyd iddo gael ei eni yn tŷ yn Fflorens a oedd ym meddiant Ser Piero. Priododd rhieni Leonardo ar wahân y flwyddyn ar ôl ei eni. Mae Caterina - sy'n ymddangos yn ddiweddarach yn nodiadau Leonardo fel "Caterina" neu "Catelina" yn unig - fel arfer yn cael ei hadnabod fel y Caterina Buti del Vacca a briododd y crefftwr lleol Antonio di Piero Buti del Vacca, gyda'r llysenw "L'Accattabriga" ("yr un cwerylgar"). Mae damcaniaethau eraill wedi'u cynnig, yn enwedig damcaniaethau'r hanesydd celf Martin Kemp, a awgrymodd fod Caterina di Meo Lippi yn ferch amddifad a briododd gyda chymorth Ser Piero a'i deulu. Priododd Ser Piero a merch o'r enw Albiera Amadori - ar dyweddïo y flwyddyn flaenorol - ac ar ôl ei marwolaeth ym 1464, aeth ymlaen i gael tair priodas wedi hynny. O'r holl briodasau, roedd gan Leonardo 16 hanner brawd a chwaer (a goroesodd 11 o fabandod) a oedd yn llawer iau nag ef (ganwyd yr olaf pan oedd Leonardo'n 46 mlwydd oed), ond ni chafodd fawr o gysylltiad â nhw.

Ychydig iawn sy'n hysbys am blentyndod Leonardo ac mae llawer wedi'i orchuddio â chwedlau, yn rhannol oherwydd ei gofiant ym Mywydau Apocryffaidd y Peintwyr, y Cerflunwyr a'r Penseiri Mwyaf Ardderchog (1550) gan yr hanesydd celf o'r 16g Giorgio Vasari. Dengys cofnodion treth ei fod erbyn o leiaf 1457 yn byw ar aelwyd ei dad-cu ar ochr ei dad, Antonio da Vinci, ond mae'n bosibl iddo dreulio'r blynyddoedd cyn hynny yng ngofal ei fam yn Vinci, naill ai Anchiano neu Campo Zeppi ym mhlwyf San Pantaleone. Credir ei fod yn agos at ei ewythr, Francesco da Vinci, ond mae'n debyg bod ei dad yn Fflorens y rhan fwyaf o'r amser. Sefydlodd Ser Piero, a oedd yn ddisgynnydd i linach hir o notariaid, breswylfa swyddogol yn Fflorens erbyn 1469 a chafodd yrfa lwyddiannus. Er gwaethaf hanes ei deulu, dim ond addysg sylfaenol ac anffurfiol mewn ysgrifennu, darllen a mathemateg a gafodd Leonardo, o bosibl oherwydd bod ei ddoniau artistig wedi cael eu cydnabod yn gynnar.

Gweithdy Verrocchio

Yng nghanol y 1460au, symudodd teulu Leonardo i Fflorens, a oedd ar y pryd yn ganolbwynt i feddwl a diwylliant Dyneiddiol Cristnogol. Tua 14 oed, daeth yn garzone (bachgen stiwdio) yng ngweithdy Andrea del Verrocchio, a oedd yn brif beintiwr a cherflunydd Fflorensaidd ei gyfnod. Roedd hyn tua adeg marwolaeth meistr Verrocchio, y cerflunydd mawr Donatello. Daeth Leonardo yn brentis erbyn iddo fod yn 17 oed a pharhaodd mewn hyfforddiant am saith mlynedd. Ymhlith yr arlunwyr enwog eraill a brentisiwyd yn y gweithdy neu sy'n gysylltiedig ag ef mae Ghirlandaio, Perugino, Botticelli, a Lorenzo di Credi. Roedd Leonardo yn mwynhau hyfforddiant damcaniaethol a derbyniodd ystod eang o sgiliau technegol, gan gynnwys drafftio, cemeg, meteleg, gweithio metel, castio plastr, gweithio lledr, mecaneg, a gwaith coed, yn ogystal â sgiliau artistig megis lluniadu, peintio, cerflunio a modelu.

Roedd Leonardo'n gyfoeswr i Botticelli, Ghirlandaio a Perugino, a oedd i gyd ychydig yn hŷn nag ef. Byddai wedi cyfarfod â nhw yng ngweithdy Verrocchio neu yn Academi Platonig y Medici. Addurnwyd Florence gan weithiau artistiaid megis Masaccio, cyfoeswyr Donatello, yr oedd ei ffresgoau ffigurol wedi'u trwytho â realaeth ac emosiwn. Dangosodd Ghiberti, y mae ei Gates of Paradise, yn disgleirio â deilen aur, y grefft o gyfuno darlunio ffigwr cymhleth gyda manylder pensaernïol. Roedd Piero della Francesca wedi gwneud astudiaeth fanwl o bersbectif, ac ef oedd yr arlunydd cyntaf i wneud astudiaeth wyddonol o oleuni. Cafodd yr astudiaethau hyn a thraethawd Leon Battista Alberti De pictura gryn ar artistiaid iau ac yn arbennig ar arsylwadau a gweithiau celf Leonardo ei hun.

Credir mai Leonardo oedd y model ar gyfer dau waith gan Verrocchio: y cerflun efydd o Dafydd yn y Bargello, a'r Archangel Raphael yn Tobias a'r Angel. Cynorthwywyr (prentisiaid) wnaeth lawer o'r paentiad yng ngweithdy Verrocchio. Yn ôl Vasari, cydweithiodd Leonardo â Verrocchio ar ei The Baptism of Christ, gan beintio’r angel ifanc yn dal gwisg Iesu; roedd y gwaith hwn gan Leonardo llawer gwell na gwaith ei feistr - cymaint felly rhoddodd Verrocchio ei frwsh ar ei baled a pheidiodd â phaentio byth wedyn. Datgelodd archwiliad manwl rannau o'r gwaith sydd wedi'u paentio neu eu cyffwrdd dros y tempera, gan ddefnyddio'r dechneg newydd o baent olew, gan gynnwys y dirwedd, y creigiau a welir trwy nant y mynydd, a llawer o'r darlun o Iesu; mae hyn yn dystiolaeth i law Leonardo ac o eirwirdeb y stori.

Y cyfnod Fflorensaidd cyntaf (1472–c. 1482)

Erbyn 1472, yn 20 oed, cymhwysodd Leonardo fel meistr yn Urdd Sant Luc, urdd arlunwyr a meddygon, ond hyd yn oed ar ôl i'w dad ei adeiladu gweithdy pwrpasol i Leonardo, cymaint oedd ei ymlyniad i Verrocchio nes iddo barhau i gydweithio a byw gydag ef. Darlun pen-ac-inc o ddyffryn Arno o 1473 yw gwaith dyddiedig cynharaf Leonardo. Yn ôl Vasari, y Leonardo ifanc oedd y cyntaf i awgrymu gwneud yr afon Arno yn sianel fordwyol rhwng Fflorens a Pisa.

Cyfnod Milanese cyntaf (c. 1482-1499)

Bu Leonardo'n gweithio ym Milan rhwng 1482 a 1499. Fe'i comisiynwyd i beintio Morwyn y Creigiau a'r Swper Olaf ar gyfer mynachlog Santa Maria delle Grazie. Yng ngwanwyn 1485, teithiodd i Hwngari ar ran Sforza i gwrdd â'r brenin Matthias Corvinus, a chafodd ei gomisiynu ganddo i beintio'r Madonna. Cyflogwyd Leonardo ar lawer o brosiectau eraill ar gyfer Sforza, gan gynnwys paratoi arddangosfeydd a sawl pasiant ar gyfer achlysuron arbennig, lluniadu a modelu pren ar gyfer Eglwys Gadeiriol Milan (a dynnodd yn ôl), a model ar gyfer cofeb enfawr o farchog i Francesco Sforza. Byddai hyn wedi rhagori o ran maint ar yr unig ddau gerflun marchogol mawr o gyfnod y Dadeni, sef Gattamelata Donatello yn Padua a Bartolomeo Colleoni Verrocchio yn Fenis. Cwblhaodd Leonardo fodel ar gyfer y ceffyl a gwnaeth gynlluniau manwl ar gyfer ei gastio, ond yn Nhachwedd 1494, rhoddodd Ludovico yr efydd i'w frawd-yng-nghyfraith i'w ddefnyddio i wneud canon i amddiffyn y ddinas rhag Charles VIII o Ffrainc.

Ail gyfnod Fflorens (1500-1508)

Pan ddymchwelwyd Ludovico Sforza gan Ffrainc yn 1500, ffodd Leonardo o Filan i Fenis, yng nghwmni ei gynorthwyydd Salaì a'i ffrind, y mathemategydd Luca Pacioli. Yn Fenis, cyflogwyd Leonardo fel pensaer a pheiriannydd milwrol, gan ddyfeisio dulliau i amddiffyn y ddinas rhag ymosodiad gan y llynges. Ar ôl dychwelyd i Fflorens yn 1500, bu ef a'i deulu'n westeion i'r mynachod Servite ym mynachlog Santissima Annunziata a darparwyd gweithdy iddynt lle, yn ôl Vasari, creodd Leonardo'r cartŵn o'r Forwyn a'r Plentyn gyda Santes Anne a Sant Ioan Fedyddiwr, gwaith a enillodd y fath edmygedd nes bod "dynion a merched, hen ac ifanc" yn heidio i'w weld."

Yn Cesena yn 1502, aeth Leonardo ati i weithio i Cesare Borgia, mab y Pab Alecsander VI, gan weithredu fel pensaer a pheiriannydd milwrol a theithiodd ledled yr Eidal gyda'i noddwr. Creodd Leonardo fap o gadarnle Cesare Borgia, cynllun tref o Imola er mwyn ennill ei nawdd. Ar ôl ei weld, cyflogodd Cesare Leonardo fel ei brif beiriannydd milwrol a phensaer. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cynhyrchodd Leonardo fap arall i'w noddwr, un o Ddyffryn Chiana, Tysgani, er mwyn rhoi troshaen well o'r tir a gwell safle strategol iddo. Creodd y map hwn ar y cyd â'i brosiect arall o adeiladu argae o'r môr i Fflorens, er mwyn caniatáu cyflenwad o ddŵr i gynnal y gamlas ym mhob tymor.

Ail gyfnod Milan (1508-1513)

Erbyn 1508, roedd Leonardo yn ôl ym Milan, yn byw yn ei dŷ ei hun yn Porta Orientale ym mhlwyf Santa Babila.

Ym 1512, roedd Leonardo'n gweithio ar gynlluniau ar gyfer cofeb farchogol ar gyfer Gian Giacomo Trivulzio, ond rhwystrwyd hyn gan ymosodiad o gonffederasiwn o luoedd y Swistir, Sbaen a Fenis, a yrrodd y Ffrancwyr o Milan. Arhosodd Leonardo yn y ddinas, gan dreulio sawl mis yn 1513 yn fila Vaprio d'Adda y Medici.

Rhufain a Ffrainc (1513-1519)

Ym Mawrth 1513, cymerodd Giovanni, mab Lorenzo de' Medici, y babaeth (fel Leo X); aeth Leonardo i Rufain y Medi hwnnw, lle cafodd ei dderbyn gan frawd y pab, Giuliano. Rhwng Medi 1513 a 1516, treuliodd Leonardo lawer o'i amser yn byw yng Nghwrt Belvedere yn y Palas Apostolaidd, lle roedd Michelangelo a Raphael ill dau yn weithgar. Derbyniai Leonardo lwfans o 33 ducat y mis, ac yn ôl Vasari, roedd yn addurno madfall wedi'i drochi mewn arian byw. Rhoddodd y pab gomisiwn peintio iddo o ddeunydd pwnc anhysbys, ond fe'i canslwyd pan aeth yr artist ati i ddatblygu math newydd o farnais. Aeth Leonardo yn sâl, yn yr hyn a allai fod y cyntaf o sawl strôc a arweiniodd at ei farwolaeth. Bu'n ymarfer botaneg yng Ngerddi Dinas y Fatican, a chafodd gomisiwn i wneud cynlluniau ar gyfer draenio Corsydd Pontine.

Yn Hydref 1515, ail-gipiodd Brenin Ffransis I o Ffrainc Milan. Roedd Leonardo'n bresennol yng nghyfarfod 19 Rhagfyr pan ddaeth Francis I a Leo X at ei gilydd, cyfarfod a gynhaliwyd yn Bologna. Yn 1516, aeth Leonardo ati i wasanaeth Francis, gan ddefnyddio'r maenordy Clos Lucé, ger cartref y brenin yn y Château d'Amboise brenhinol. Yr oedd Ffransis yn ymweled ag ef yn aml. Roedd ei ffrind a'i brentis Francesco Melzi gyda Leonardo yn ystod y cyfnod hwn, a derbyniai bensiwn o 10,000 sgwdi. Ar ryw adeg, tynnodd Melzi bortread o Leonardo; yr unig rai eraill y gwyddys amdanynt ers ei oes oedd braslun gan gynorthwyydd anhysbys ar gefn un o astudiaethau Leonardo (c. 1517) a llun gan Giovanni Ambrogio Figino yn darlunio Leonardo oedrannus gyda'i fraich dde wedi'i lapio mewn dillad. Mae'r olaf, yn ogystal â'r cofnod o ymweliad gan Louis d'Aragon yn Hydref 1517, yn cadarnhau'r stori bod llaw dde Leonardo'n ddiffrwyth erbyn iddo gyrraedd ei 65 oed, a all esbonio pam y gadawodd weithiau fel y Mona Lisa heb eu gorffen. Parhaodd i weithio i ryw raddau nes mynd yn sâl ac yn gaeth i'r gwely am rai misoedd.

Marwolaeth

Bu farw Leonardo yng Nghlos Lucé ar 2 Mai 1519 yn 67 oed, o bosibl o strôc. Roedd Francis wedi dod yn ffrind agos iddo. Disgrifia Vasari Leonardo fel un sy'n galaru ar ei wely angau, yn llawn edifeirwch, ei fod "wedi troseddu yn erbyn Duw a dynion trwy fethu ag ymarfer ei gelfyddyd fel y dylai fod wedi gwneud." Dywed Vasari fod Leonardo, yn ei ddyddiau olaf, wedi anfon am offeiriad i wneud ei gyffes ac i dderbyn y Sacrament Sanctaidd. Cofnododd Vasari hefyd bod y brenin wedi dal pen Leonardo yn ei freichiau wrth iddo farw, er y gall y stori hon fod yn chwedl yn hytrach na ffaith. Yn unol â'i ewyllys, roedd chwe deg o gardotwyr yn cario meinciau yn dilyn llwch Leonardo. Melzi oedd y prif etifedd ac ysgutor, yn derbyn, yn ogystal ag arian, y paentiadau, yr offer, llyfrgell ac eiddo personol Leonardo. Derbyniodd Salaì, disgybl a chydymaith Leonardo, a'i was Baptista de Vilanis, hanner gwinllannoedd Leonardo. Cafodd ei frodyr dir, a chafodd ei wraig glogyn â leinin ffwr. Ar 12 Awst 1519, claddwyd gweddillion Leonardo yn Eglwys Golegol Sant Florentin yn y Château d'Amboise.

Y Gwyddonydd a'r dyfeisydd

Sgetsis yn dyddio nôl i 1510 gan yr arlunydd a'r dyfeisydd Leonardo da Vinci.
Sgetsis yn dyddio nôl i 1510 gan yr arlunydd a'r dyfeisydd Leonardo da Vinci.
Cynllun o beiriant hedfan, (c. 1488) Institut de France, Paris
Cynllun o beiriant hedfan, (c. 1488) Institut de France, Paris
2 images

Anatomi

Dechreuodd ei brentisiaeth ffurfiol mewn anatomi wrth draed Andrea del Verrocchio, ei athro a fynnodd fod pob un o'i ddisgyblion yn astudio anatomi cyn mynd ati i ddysgu arlunio. Daeth da Vinci'n feistr ar anatomi gweledol gan ymarfer y cyhyrau, y tendonau a ffurfiau eraill y corff.

Oherwydd ei lwyddiant fel arlunydd, cafodd yr hawl i weithio ar gyrff marw yn Ysbyty Santa Maria Nuova yn Florence, Milan a Rhufain, gan agor y cyrff i weld sut roedd y cyhyrau ac organau mewnol yn gorwedd ac yn gweithio. Gweithiodd gyda meddyg (Marcantonio della Torre) rhwng 1510 a 1511 gan gydlunio papur ar anatomi a oedd yn cynnwys dros 200 o'i luniau. Fe'i cyhoeddwyd yn 1680 (161 blwyddyn wedi'i farwolaeth).

Y Dyfeisydd

Yn ystod ei oes, cafodd Leonardo ei barchu'n fawr fel peiriannydd galluog iawn. Mewn llythyr at Ludovico il Moro honodd y gallai greu pob math o beiriannau i ymosod ac i amddiffyn tref. Pan ddihangodd i Fenis yn 1499 cafodd waith fel peiriannydd i gynllunio amddiffynfeydd i'r ddinas, rhag ymosodiadau. Mae ei bapurau'n orlawn o bob math o ddyfeiadau a oedd o flaen eu hamser ac sy'n cynnwys offerynnau cerdd newydd, y pwmp hydrolig, cannon a weithiau gyda stem a'r hofrenydd.

Ei waith enwocaf

Y Mona Lisa (La Gioconda), 1503–5/1507
Y Mona Lisa(La Gioconda), 1503–5/1507
Y Dyn Vitruve, tua 1490
Y Dyn Vitruve, tua 1490
Y Swper Olaf, 1498
Y Swper Olaf, 1498
3 images

Ffynonellau

  • Anonimo Gaddiano (c. 1530). "Leonardo da Vinci". Codice Magliabechiano. in Lives of Leonardo da Vinci (Lives of the Artists). Los Angeles: J. Paul Getty Museum. 2019. tt. 103–114. ISBN 978-1-60606-621-8.
  • Giovio, Paolo (c. 1527). "The Life of Leonardo da Vinci". Elogia virorum illustrium. in Lives of Leonardo da Vinci (Lives of the Artists). Los Angeles: J. Paul Getty Museum. 2019. tt. 103–114. ISBN 978-1-60606-621-8.
  • Vasari, Giorgio (1965) [1568]. "The Life of Leonardo da Vinci". Lives of the Artists. Cyfieithwyd gan George Bull. Penguin Classics. ISBN 978-0-14-044164-2.
  • —— (1991) [1568]. The Lives of the Artists. Oxford World's Classics (yn Saesneg). Cyfieithwyd gan Bondanella, Peter; Bondanella, Julia Conway. Oxford University Press. ISBN 0-19-283410-X.

Llyfrau

  • Nodyn:Ill (1998). Leonardo da Vinci. Old Saybrook: Konecky & Konecky. ISBN 978-1-56852-198-5.
  • Bambach, Carmen C., gol. (2003). Leonardo da Vinci, Master Draftsman. New York: Metropolitan Museum of Art. ISBN 978-0-300-09878-5.
  • Bambach, Carmen C. (2019). Leonardo da Vinci Rediscovered. 1, The Making of an Artist: 1452–1500. New Haven: Yale University Press. ISBN 978-0-300-19195-0.
  • Bortolon, Liana (1967). The Life and Times of Leonardo. London: Paul Hamlyn.
  • Brown, David Alan (1998). Leonardo Da Vinci: Origins of a Genius. New Haven: Yale University Press. ISBN 978-0-300-07246-4.
  • Capra, Fritjof (2007). The Science of Leonardo. Doubleday. ISBN 978-0-385-51390-6.
  • Ottino della Chiesa, Angela (1985) [1967]. The Complete Paintings of Leonardo da Vinci. Penguin Classics of World Art. London: Penguin Books. ISBN 978-0-14-008649-2.
  • Clark, Kenneth (1961). Leonardo da Vinci. Penguin Books. OCLC 187223.
  • Gasca, Ana Millàn; Nicolò, Fernando; Lucertini, Mario (2004). Technological Concepts and Mathematical Models in the Evolution of Modern Engineering Systems. Birkhauser. ISBN 978-3-7643-6940-8.
  • Hartt, Frederich (1970). A History of Italian Renaissance Art. Thames and Hudson.
  • Heaton, Mary Margaret (1874). Leonardo Da Vinci and His Works: Consisting of a Life of Leonardo Da Vinci. Efrog Newydd: Macmillan Publishers. OCLC 1706262.
  • Isaacson, Walter (2017). Leonardo da Vinci. Efrog Newydd: Simon & Schuster. ISBN 978-1-5011-3915-4.
  • Kemp, Martin (2006) [1981]. Leonardo Da Vinci: The Marvellous Works of Nature and Man. Rhydychen: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-920778-7.
  • Kemp, Martin (2011) [2004]. Leonardo (arg. Revised). Oxford, England: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-280644-4.
  • Kemp, Martin; Pallanti, Giuseppe (2017). Mona Lisa: The People and the Painting. Rhydychen: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-874990-5.
  • Kemp, Martin (2019). Leonardo da Vinci: The 100 Milestones. Efrog Newydd: Sterling Publishing]]. ISBN 978-1-4549-3042-6.
  • Magnano, Milena (2007). Leonardo, collana I Geni dell'arte. Mondadori Arte. ISBN 978-88-370-6432-7.
  • Marani, Pietro C. (2003) [2000]. Leonardo da Vinci: The Complete Paintings. New York: Harry N. Abrams. ISBN 978-0-8109-3581-5.
  • Martindale, Andrew (1972). The Rise of the Artist. Thames and Hudson. ISBN 978-0-500-56006-8.
  • Nicholl, Charles (2005). Leonardo da Vinci: The Flights of the Mind. London: Penguin Books. ISBN 978-0-14-029681-5.
  • O'Malley, Charles D.; Sounders, J.B. de C.M. (1952). Leonardo on the Human Body: The Anatomical, Physiological, and Embryological Drawings of Leonardo da Vinci. With Translations, Emendations and a Biographical Introduction. New York: Henry Schuman.
  • Pedretti, Carlo (1982). Leonardo, a study in chronology and style. Caergrawnt: Johnson Reprint Corp. ISBN 978-0-384-45281-7.
  • Pedretti, Carlo (2006). Leonardo da Vinci. Surrey: Taj Books International. ISBN 978-1-84406-036-8.
  • Popham, A.E. (1946). The Drawings of Leonardo da Vinci. Jonathan Cape.
  • Richter, Jean Paul (1970). The Notebooks of Leonardo da Vinci. Dover. ISBN 978-0-486-22572-2. volume 2: ISBN 0-486-22573-9. A reprint of the original 1883 edition
  • Rosci, Marco (1977). Leonardo. Bay Books Pty Ltd.
  • Syson, Luke; Keith, Larry; Galansino, Arturo; Mazzotta, Antoni; Nethersole, Scott; Rumberg, Per (2011). Leonardo da Vinci: Painter at the Court of Milan. Llundain: National Gallery. ISBN 978-1-85709-491-6.
  • Turner, A. Richard (1993). Inventing Leonardo. Efrog Newydd: Alfred A. Knopf. ISBN 978-0-520-08938-9.
  • Wallace, Robert (1972) [1966]. The World of Leonardo: 1452–1519. New York: Time-Life Books.
  • Wasserman, Jack (1975). Leonardo da Vinci. Efrog Newydd: Harry N. Abrams.
  • Williamson, Hugh Ross (1974). Lorenzo the Magnificent. Michael Joseph.
  • Vezzosi, Alessandro (1997). Leonardo da Vinci: Renaissance Man. cyfres New Horizons. Cyfieithwyd gan Bonfante-Warren, Alexandra. Llundain: Thames & Hudson.
  • Zöllner, Frank (2015). Leonardo (arg. 2nd). Cologne: Taschen. ISBN 978-3-8365-0215-3.
  • Zöllner, Frank (2019) [2003]. Leonardo da Vinci: The Complete Paintings and Drawings (arg. Anniversary). Cologne: Taschen. ISBN 978-3-8365-7625-3.

Erthyglau academaidd

  • Brown, David Alan (1983). "Leonardo and the Idealized Portrait in Milan". Arte Lombarda 64 (4): 102–116. JSTOR 43105426. (angen tanysgrifiad)
  • Cremante, Simona (2005). Leonardo da Vinci: Artist, Scientist, Inventor. Giunti. ISBN 978-88-09-03891-2.
  • Giacomelli, Raffaele (1936). Gli scritti di Leonardo da Vinci sul volo. Rhufain: G. Bardi.
  • Heydenreich, Ludwig Heinrich (28 Ebrill 2020). "Leonardo da Vinci | Biography, Art & Facts | Britannica". Encyclopædia Britannica. Chicago: Encyclopædia Britannica, Inc.
  • Kemp, Martin (2003). "Leonardo da Vinci". Grove Art Online. Oxford: Oxford University Press. doi:10.1093/gao/9781884446054.article.T050401. ISBN 978-1-884446-05-4. Nodyn:Grove Art subscription
  • Lupia, John N. (Summer 1994). "The Secret Revealed: How to Look at Italian Renaissance Painting". Medieval and Renaissance Times 1 (2): 6–17. ISSN 1075-2110.

Darllen pellach

Gweler Kemp (2003) and Bambach (2019, pp. 442–579) am lyfryddiaeth helaeth

  • Vanna, Arrighi; Bellinazzi, Anna; Villata, Edoardo, gol. (2005). Leonardo da Vinci: la vera immagine: documenti e testimonianze sulla vita e sull'opera [Leonardo da Vinci: the true image: documents and testimonies on life and work] (yn Eidaleg). Florence: Giunti Editore. ISBN 978-88-09-04519-4.
  • Vecce, Carlo (2006). Leonardo (yn Eidaleg). Foreword by Carlo Pedretti. Rome: Salerno. ISBN 978-88-8402-548-7.
  • Winternitz, Emanuel (1982). Leonardo da Vinci As a Musician. New Haven: Yale University Press.
  • Leonardo da Vinci: anatomical drawings from the Royal Library, Windsor Castle. Efrog Newydd: The Metropolitan Museum of Art. 1983. ISBN 978-0-87099-362-6.

Dolenni allanol

  • (Saesneg) Art Gallery - Leonardo da Vinci

Read next

In 243 languages

cyаԥсшәаAfrikaansAlemannischалтай тилአማርኛaragonésअंगिकाالعربيةܐܪܡܝܐالدارجةمصرىঅসমীয়াasturianuаварKotavaअवधीAymar aruazərbaycancaتۆرکجهбашҡортсаBasa BaliBoarischžemaitėškaBikol Centralбеларуская (тарашкевіца)беларускаяBetawiбългарскиभोजपुरीBislamaবাংলাབོད་ཡིགbrezhonegbosanskiBatak MandailingбуряадcatalàChavacano de Zamboanga閩東語 / Mìng-dĕ̤ng-ngṳ̄нохчийнCebuanoChamoruکوردیcorsuqırımtatarcačeštinaчӑвашлаdanskDeutschZazakiडोटेलीΕλληνικάemiliàn e rumagnòlEnglishEsperantoespañoleestieuskaraestremeñuفارسیsuomivõroNa Vosa VakavitiføroysktfrançaisNordfriiskfurlanFryskGaeilge贛語kriyòl gwiyannenGàidhliggalegoAvañe'ẽगोंयची कोंकणी / Gõychi KonknniBahasa Hulontalo𐌲𐌿𐍄𐌹𐍃𐌺ગુજરાતીGaelgHausa客家語 / Hak-kâ-ngîHawaiʻiעבריתहिन्दीFiji HindihrvatskiKreyòl ayisyenmagyarհայերենԱրեւմտահայերէնinterlinguaBahasa IndonesiaIlokanoIdoíslenskaitaliano日本語Patoisla .lojban.JawaქართულიQaraqalpaqshaTaqbaylitJjuадыгэбзэKabɩyɛTyapқазақшаភាសាខ្មែរಕನ್ನಡYerwa Kanuri한국어къарачай-малкъарکٲشُرRipoarischkurdîkernowekкыргызчаLatinaLadinoLëtzebuergeschлезгиLingua Franca NovaLimburgsLigureLadinlombardlingálaລາວlietuviųlatviešuMadhurâमगहीमैथिलीBasa BanyumasanMalagasyолык марийMāoriMinangkabauмакедонскиമലയാളംмонголဘာသာမန်मराठीBahasa MelayuMaltiMirandésမြန်မာဘာသာمازِرونیNapulitanoNedersaksiesPlattdüütschनेपालीनेपाल भाषाLi NihaNederlandsnorsk nynorsknorskNovialSesotho sa LeboaChi-ChewaoccitanlivvinkarjalaOromooଓଡ଼ିଆиронਪੰਜਾਬੀKapampanganPicardPälzischpolskiPiemontèisپنجابیپښتوportuguêsRuna Simiromânăarmãneashtitarandíneрусскийрусиньскыйसंस्कृतम्саха тылаᱥᱟᱱᱛᱟᱲᱤsardusicilianuScotsسنڌيdavvisámegiellasrpskohrvatski / српскохрватскиTaclḥitසිංහලSimple EnglishslovenčinaslovenščinaSoomaaligashqipсрпски / srpskiSranantongoSeelterskSundasvenskaKiswahiliślůnskiSakizayaதமிழ்తెలుగుtetunтоҷикӣไทยTürkmençeTagalogtolışitoki ponaTürkçeтатарча / tatarçachiTumbukaтыва дылудмуртئۇيغۇرچە / Uyghurcheукраїнськаاردوoʻzbekcha / ўзбекчаvènetovepsän kel’Tiếng ViệtWest-VlamsVolapükWinaray吴语хальмгisiXhosaმარგალურიייִדישYorùbáZeêuwsⵜⴰⵎⴰⵣⵉⵖⵜ ⵜⴰⵏⴰⵡⴰⵢⵜ文言閩南語 / Bân-lâm-gí粵語中文isiZulu

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article