factograf
CY
Sign in

Laser

Laser
All data from the card 5
Math
ffynhonnell golau, cydran optegol
Dyddiad darganfod
16 Mai 1960
Cynnyrch
laser beam
Freebase
/M/04gh1
Thesawrws y BNCF
12523
Laser
Laser

Dyfais sy'n allyrru golau (ymbelydredd electromagnetig) yw laser trwy broses o’r enw allyriant ysgogol. Mae'r gair laser yn sefyll am light amplification by stimulated emission of radiation. Crëwyd y laser gyntaf gan ffisegwyr Charles Townes ac Arthur Schawlow yn labordai Bell. Mae un o safleoedd ymchwil gwyddonol gorau Ewrop yn y maes hwn yn Llanelwy, sef Technium OpTIC.

Prosesau o fewn laserau

Arbrofion laserau Awyrlu yr Unol Daleithiau
Arbrofion laserau Awyrlu yr Unol Daleithiau
Amsugniad Golau Ffoton gan Electron
Amsugniad Golau Ffoton gan Electron
Allyriant Digymell
Allyriant Digymell
Allyriant Ysgogol- Un Ffoton mewn - dau ffoton allan, dyma sy'n creu golau cryf laser
Allyriant Ysgogol- Un Ffoton mewn - dau ffoton allan, dyma sy'n creu golau cryf laser
4 images

Amsugniad Golau

Mae ffoton gyda'r egni digonol yn cael ei amsugno gan atom ac mae electron yr atom yn symud o'r cyflwr isaf i'r cyflwr cynhyrfol.

Allyriant Digymell

Mae'r broses yma yn digwydd i'r gwrthdro i'r amsugniad. Mae'r electron yn disgyn ar hap o'r cyflwr uchaf cynhyrfol i'r cyflwr isaf ac mae'r cwymp yma yn creu allyriad ffoton o'r un egni. Mae cydweddau a chyfeiriadau'r allyriadau yma ar hap.

Allyriad ysgogol

prif erthygl:allyriant ysgogol
Awgrymwyd y broses yma gan Albert Einstein yn 1917. Caiff yr electron sydd yn y cyflwr cynhyrfol uwch ei ysgogi i ddisgyn gan y ffoton sy'n dod mewn i'r atom. Maes electromagnetig sydd gan y ffoton sy'n achosi i'r ffoton syrthio. Bydd y ffoton newydd a ysgogir gan y ffoton gwreiddiol yn gadael yr atom yn gydwedd ac i'r un cyfeiriad a'r ffoton gwreiddiol.

Gwrthdroad Poblogaeth

Er mwyn cael y fwyaf o olau allan o'r ddyfais, rhaid cael y rhan fwyaf o'r electronau ar y lefel uwch cynhyrfol. Bydd hyn yn galluogi fwy ohonynt ddisgyn ac allyrru ffotonau. Mae yna broblem, mae'r ffotonau a gynhyrchir yn addas i'r electronau amsugno. Mae angen cael sefyllfa lle mae'r gyfradd allyriant ysgogol yn fwy na'r gyfradd amsugno gan yr electron- yna cynyddir arddwysedd y paladr laser. Wrth pwmpio electronau mae'r nifer o electronau cynhyrfol yn cynyddu a dyna yw gwrthdrawiad poblogaeth.

Read next

In 115 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article