
Cytser pŵl a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd yw Lacerta. "Lacerta" yw'r gair Lladin am "fadfall". Fe'i henwyd yn wreiddiol gan Johannes Hevelius yn 1687. Fe'i lleolir rhwng y cytserau Cygnus, Cassiopeia ac Andromeda. Gorwedd y rhan ogleddol ar y Llwybr Llaethog. Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.
