Cyflwynydd teledu a radio o Loegr yw Jonathan Stephen Ross OBE (ganed 17 Tachwedd 1960 yn Llundain), neu "Wossy", sydd wedi ennill gwobrau BAFTA. Daeth i amlygrwydd gyntaf yn yr 1980au gyda'i sioe siarad The Last Resort with Jonathan Ross ar Channel 4. Aeth ymlaen i wneud sawl rhaglen i'r BBC gan gyflwyno The Film Programme rhwng 1999 a 2010, sioe siarad wythnosol Friday Night with Jonathan Ross rhwng 2001 a 2010, a sioe radio ar BBC Radio 2 rhwng 1999 a 2010. Gadawodd y BBC yn 2010 a cychwynnodd ei sioe siarad newydd ar ITV yn Medi 2011.
The Russell Brand Show ac Andrew Sachs
Gwaharddwyd Ross o'i waith ar y 18 Hydref, 2008 wedi iddo ymddangos ar sioe y digrifwr Russell Brand. Tra ar The Russell Brand Show, gwnaeth Ross a Brand gyfres o alwadau ffôn i'r actor 78 mlwydd oed Andrew Sachs, gan adael negeseuon ar ei beiriant ateb. Prin oedd y diddordeb i ddechrau, ond cafwyd erthyglau papur newydd am y nifer uchel o gwynion a wnaed. Ymddiswyddodd Brand o'r BBC a gwaharddwyd Ross o'i swydd yn ddi-dâl am 12 wythnos gan ddechrau ar y 29 Hydref. Dywedodd Uwch-Gyfarwyddwr y BBC, Mark Thompson y dylai Ross ystyried y camau disgyblu hyn fel ei gyfle olaf.
Ar 21 Tachwedd 2008 dywedodd Ymddiriedolaeth y BBC fod y galwadau ffôn yn "deplorable intrusion with no editorial justification" Cefnogodd yr ymddiriedolaeth gwaharddiad 12 wythnos Ross ond argymhellwyd na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach yn ei erbyn. Dychwelodd Ross i'w waith yn Ionawr 2009 a darlledwyd y rhaglen gyntaf o Friday Night With Jonathan Ross ar 23 Ionawr 2009. Y gwestai oedd Tom Cruise, Stephen Fry a Lee Evans, a chafwyd cerddoriaeth gan y band Franz Ferdinand.
