factograf
CY

John von Neumann

John von Neumann

Key facts

dyddiad geni28 Rhagfyr 1903
dyddiad marw8 Chwefror 1957
''alma mater''Fasori Gimnázium
galwedigaethmathemategydd, gwyddonydd cyfrifiadurol, ffisegydd
man geniBudapest
man marwWashington
All data from the card 12
Ganwyd
Neumann János Lajos 28 Rhagfyr 1903 Budapest
Bu farw
8 Chwefror 1957 o canser ar yr ymennydd Washington
Dinasyddiaeth
Hwngari, Unol Daleithiau America
Addysg
Doethur mewn Athroniaeth
Alma mater
Fasori GimnáziumPrifysgol Frederick WilliamETH ZurichPrifysgol Eötvös LorándPrifysgol Georg August Göttingen
Ymgynghorydd y doethor
Lipót Fejér
Galwedigaeth
mathemategydd, gwyddonydd cyfrifiadurol, ffisegydd, economegydd, academydd, ymgynghorydd, Prosiect Manhattan
Swydd
cadeirydd
Tad
Max von Neumann
Mam
Margaret Neumann
Priod
Klara Dan von Neumann, Mariette Kövesi
Plant
Marina von Neumann Whitman

Mathemategydd o Hwngari, a ddaeth yn ddiweddarach yn ddinesydd o'r Unol Daleithiau, oedd John von Neumann, Hwngareg: Neumann János Lajos, (28 Rhagfyr, 1903 – 8 Chwefror, 1957). Gwnaeth gyfraniad mawr mewn cryn nifer o feusydd, yn cynnwys damcaniaeth set, peirianneg cwantwm a chyfrifiadureg. Bu ganddo ran bwysig yn natblygiad y bom hidrogen.

Ganed ef yn Budapest, yr hynaf o dri mab, i deulu Iddewig cefnog. Fe'i addysgwyd gan diwtor preifat, tan y mynychodd ysgol uwchradd Lwtheraidd yn Budapest. Yn ddeunaw oed, cofrestrodd i astudio gradd mewn mathemateg ym Mhrifysgol Budapest. Aeth wedyn i gychwyn doethuriaeth ym Mhrifysgol Budapest, ond cychwynodd astudio peirianneg cemegol yn Zurich ar yr un pryd. Derbyniodd radd mewn peirianneg cemegol o Zurich yn 1925 a doethuriaeth o Budapest yn 1926.

Daeth yn Gydfyfyriwr Rockerfeller ym Mhrifysgol Göttingen, ac erbyn 1926 roedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Humboldt ym Merlin, yr ieuengaf yn ei hanes. Wedi marwolaeth ei dad yn 1929, ymfudodd y teulu i'r Unol Daleithiau. Daeth yn un o bedwar Athro cyntaf yr Institute for Advanced Study (roedd y lleill yn cynnwys Albert Einstein a Kurt Gödel), a bu'n Athro mathemateg yno hyd ei farwolaeth.

Read next

In 102 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article