factograf
CY
Sign in

cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Houston yn 1972

Jennifer Garner

Jennifer Garner

Key facts

dyddiad geni17 Ebrill 1972
uchder171cm
galwedigaethactor teledu, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm
man geniHouston
priodBen Affleck
aelod o'r blaid wleidyddoly Blaid Ddemocrataidd
All data from the card 13
Ganwyd
17 Ebrill 1972 Houston
Dinasyddiaeth
Unol Daleithiau America
Alma mater
George Washington High SchoolPrifysgol DenisonEugene O'Neill Theater Center
Galwedigaeth
actor teledu, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor llwyfan, actor ffilm, actor
Adnabyddus am
Alias, Daredevil, 13 Going on 30
Taldra
171 centimetr
Plaid Wleidyddol
plaid Ddemocrataidd
Tad
William John Garner
Mam
Patricia Ann English
Priod
Ben Affleck, Scott Foley
Partner
John C. Miller, Ben Affleck
Plant
Violet Affleck, Seraphina Affleck, Sam Affleck
Gwobr/au
Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Menyw 'Hasty Pudding' y Flwyddyn, Actor Award for Outstanding Performance by a Female Actor in a Drama Series

Mae Jennifer Anne Garner (ganed 17 Ebrill 1972) yn actores a chynhyrchydd ffilm o'r Unol Daleithiau. Daeth Garner yn enw cyfarwydd yn dilyn ei rhan yn y comedi Dude, Where's My Car (2000). Cyn mynd ymlaen i chwarae rôl ategol yn Pearl Harbor. Derbyniodd gydnabyddiaeth am ei pherfformiad fel Sydney Bristow, swyddog CIA yn y ddrama ABC gyffrous Alias, a ddarlledwyd rhwng 2001 a 2006. Am ei phortread yn Alias, derbyniodd wobr Golden Globe, gwobr SAG ynghyd â phedwar enwebiad gwobr Emmy.

Yn ystod ei chyfnod ar Alias, derbyniodd Garner rôl cameo yn Catch Me If You Can (2002), cyn derbyn y brif ran yn y comedi rhamantus 13 Going on 30 (2004). Mae Garner wedi ymddangos mewn sawl ffilm gan gynnwys y ffilmiau archarwyr Daredevil (2003), Elektra (2005), The Kingdom (2007), y ddrama gomedi Juno (2007), a'r comedi rhamantus The Invention of Lying (2009). O 2010 ymlaen ymddangosodd Garner yn gomedi ddrama ffantasi The Odd Life of Timothy Green (2012), y ddrama fywgraffyddol Dallas Buyers Club (2013), a'r comedi Alexander and the Terrible, Horrible, No Good, Very Bad Day (2014).

Ers diwedd yr 2000au mae Garner wedi ymgyrchu'n gyson dros faterion addysg fel aelod o Fwrdd a llysgennad yr elusen Save the Children. Mae hi hefyd yn llysddadleuwr dros ymgyrchoedd gwrth-paparazzi ymhlith plant enwog. Ar ôl pedair blynedd o briodas â Scott Foley, priododd Garner yr actor Ben Affleck yn 2005, mae ganddynt dri o blant. Ym 2015 gwahanodd Garner ac Affleck.

Read next

In 77 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article