factograf
CY
Sign in

Jasper Johns

Jasper Johns

Key facts

dyddiad geni15 Mai 1930
''alma mater''Prifysgol De Carolina
galwedigaetharlunydd, cerflunydd, dylunydd gwisgoedd
man geniAugusta
gwobrau a dderbyniwydPraemium Imperiale
genrecelf haniaethol
All data from the card 9
Ganwyd
15 Mai 1930 Augusta
Dinasyddiaeth
Unol Daleithiau America
Alma mater
Prifysgol De CarolinaSumter High School
Galwedigaeth
arlunydd, cerflunydd, dylunydd gwisgoedd, cynllunydd, ffotograffydd, arlunydd graffig, gwneuthurwr printiau, darlunydd, artist, celfyddydwr
Adnabyddus am
Target with Four Faces, Three Flags, Map
Arddull
celf haniaethol, bywyd llonydd, figure
Mudiad
Neo-Dada
Gwobr/au
Praemium Imperiale, Y Medal Celf Cenedlaethol, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America
Gwefan
http://www.jasperjohns.com/
Three Flags (1958), gwaith llosg sy'n nodweddiadol o arddull Jasper Johns.
Three Flags (1958), gwaith llosg sy'n nodweddiadol o arddull Jasper Johns.

Arlunydd o'r Unol Daleithiau yw Jasper Johns (ganwyd 15 Mai 1930) a gysylltir â'r mudiad celfyddyd bop.

Ganwyd yn Augusta yn nhalaith Georgia. Astudiodd am flwyddyn ym Mhrifysgol De Carolina cyn iddo symud i Ddinas Efrog Newydd i weithio fel arlunydd.

Ym 1954 fe gychwynnodd ar ei gyfres enwog o beintiadau o'r faner Americanaidd. Peintiodd destunau dau ddimensiwn megis baneri, mapiau, labeli, rhifau, a llythrennau mewn lliwiau syml a gyda thechneg llosgliw, hynny yw pigmentau wedi cymysgu â chwyr poeth. Yn ôl beirniad ym mhapur newydd The Times, ymddengys ei waith petai'n "ymdrech i gynhyrchu peth prin a gwerthfawr drwy ymdrafferthu â gwrthrych sydd yn y bôn yn anystwyth, yn fud ac yn anniddorol".

Ym 1961, dechreuodd Johns osod gwrthrychau ar ei gynfasau. Newidiodd ei arddull yn y 1970au gyda'i crosshatchings: casgliadau o linellau cyfochrog, weithiau yn ddu a gwyn. Yn y 1980au, darluniodd elfennau ffigurol a chyfeiriadau at ei fywyd yn ei beintiadau.

Derbyniodd Wobr Gelfyddyd Wolf ym 1986, wobr beintio y Praemium Imperiale ym 1993, a Medal Rhyddid yr Arlywydd yn 2011. Cynhyrchwyd y ffilm ddogfen Jasper Johns: Ideas in Paint amdano ym 1989.

Darllen pellach

  • Fiona Donovan, Jasper Johns: Pictures within Pictures, 1980–2015 (Llundain: Thames & Hudson, 2017).

Read next

In 42 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article