factograf
CY

cyfansoddwr a aned yn 1977

Jason Mraz

Jason Mraz

Key facts

dyddiad geni23 Mehefin 1977
''alma mater''Coleg Cerdd Berklee
galwedigaethgitarydd, canwr, cyfansoddwr
man geniMechanicsville
gwobrau a dderbyniwydOut100
genrecerddoriaeth boblogaidd
All data from the card 7
Ganwyd
Jason Thomas Mraz 23 Mehefin 1977 Mechanicsville
Label recordio
Atlantic Records, Elektra Records
Dinasyddiaeth
Unol Daleithiau America
Alma mater
Coleg Cerdd BerkleeMechanicsville High SchoolSchool of the Performing Arts in the Richmond Community
Galwedigaeth
gitarydd, canwr, cyfansoddwr, mandolinydd, cerddor
Arddull
cerddoriaeth boblogaidd, roc poblogaidd, blue-eyed soul, reggae, roc amgen, alternative hip-hop, ffwnc, jazz, surf music
Gwefan
https://www.jasonmraz.com/

Canwr gyfansoddwr o'r Unol Daleithiau yw Jason Mraz (ganwyd 23 Mehefin 1977), o Mechanicsville, Virginia, Unol Daleithiau. Mae ei ddylanwadau arddulliadol yn cynnwys reggae, pop, roc, cerddoriaeth gwerin, jazz a hip hop.

Rhyddhaodd Mraz ei albwm cyntaf, "Waiting for My Rocket to Come" yn 2002, ond ar ôl ei ail albwm Mr. A-Z enillodd lwyddiant masnachol. Aeth yr albwm i rhif 5 yn y Billboard Hot 200, a gwerthodd dros gan mil o gopiau yn yr Unol Daleithiau. Yn 2008, rhyddhaodd Mraz ei drydydd albwm stiwdio, "We Sing. We Dance. We Steal Things.". Aeth yr albwm yn syth i rhif 3 yn y Billboard 200, ac roedd yn llwyddiannus ledled y byd.

Daeth i amlygrwydd gyda rhyddhad o "I'm Yours", y brif sengl o "We Sing. We Dance. We Steal Things". Man uchaf y sengl ar y Billboard Hot 100 oedd rhif 6, a chafodd Mraz ei sengl cyntaf yn y deg uchaf. Roedd y gân yn llwyddiant masnachol yn yr Unol Daleithiau, gan gipio tair tystysgrif Platinwm o'r RIAA am werthiant o dros dair miliwn. Bu'n gân yn llwyddiannus yn rhyngwladol hefyd ac aeth i frig y siart yn Seland Newydd a Norwy a chan gyrraedd y deg uchaf mewn nifer o siartiau rhyngwladol.

Bywgraffiad

Mae Mraz o dras Tsiec oherwydd symudodd ei dadcu i'r Unol Daleithiau o'r hyn a arferai fod yn y Weriniaeth Tsiec ym 1915. Yn yr iaith Tseic, golyga ei gyfenw "rhew". Mae Mraz hefyd yn fegan.

Mynychodd Mraz "Yr Academi Cerdd a Drama" yn Ninas Efrog Newydd am gyfnod byr, gan astudio theatr gerdd cyn iddo symud i San Diego.

Mae Mraz yn berchen ar fferm afocado yng ngogledd San Diego County ger Fallbrook.

Dolenni allanol

  • (Saesneg) Gwefan swyddogol
  • Casgliad Jason Mraz yn archifdy cerddoriaeth byw Archifdy'r Rhyngrwyd
  • Rhestr chwarae: Jason Mraz – Nightline 07/17/09 – Reggae i rock, esbonia Mraz ei ddylanwadau cerddorol.
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Read next

In 48 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article