factograf
CY

Hwyl

Hwyl

Darn o ddefnydd hydwyth megis cynfas yw hwyl sydd yn defnyddio ynni'r gwynt i yrru badau sydd yn hwylio ar wyneb y dŵr, gan gynnwys hwyl-longau, cychod hwyliau, ac hwylfyrddau, a hefyd ar wynebau solet megis cychod ar rew neu dywod.

Mae'n debyg taw crwyn anifeiliaid oedd y hwyliau cyntaf ar rafft neu ysgraff syml a wneid o foncyff. Yn ddiweddarach, gwneid hwyliau o gyrs wedi eu gwehyddu a'u tynnu rhwng hwylbrenni. Darlunir hwyliau lliain gan gelfyddyd yr Hen Aifft, tua'r flwyddyn 3300 CC. Yn ystod yr Oesoedd Canol, cynhyrchid lliain o lin ar gyfer llongau Lloegr, Ffrainc, a Sbaen. Ym 1851 llwyddodd y sgwner America, a chanddi hwyliau cotwm, i guro'r holl gychod Prydeinig mewn ras o amgylch Ynys Wyth. Wedi hynny, defnyddid cotwm yn fwyfwy yn Ewrop i gynhyrchu cynfas hwyliau. Yn yr 20g datblygwyd sawl ffabrig synthetig megis polyester Dacron/Terylene.

Read next

In 77 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article