factograf
CY

Gwin

Gwin
All data from the card 7
Math
diod alcoholig wedi'i eplesu, diod ffrwythau, alcoholig
Lliw/iau
coch, pinc, gwyn, oren
Deunydd
grawnwin, burum
Dyddiad cynharaf
54 g CC
Gwlad
Cymru
Cynnyrch
Vitis vinifera subsp. vinifera
Freebase
/M/081qc

Diod alcoholaidd a wneir o ffrwythau wedi'u eplesu yw gwin. Defnyddir burum i fwyta'r siwgr naturiol sydd yn y ffrwyth; yn y broses hon, caiff y ffrwyth ei drawsnewid yn ethanol a charbon deuocsid, gan ryddhau ychydig o wres yn y broses. Gwneir gwin gan amlaf allan o rawnwin, ac mae'r term "gwin" fel arfer yn cyfeirio at win a wnaed o rawnwin. Er hynny, gellir galw nifer o ddiodydd alcoholig o ffrwythau (megis eirin, ceirios, pomgranad, llus, cyrens ac ysgaw) yn win.

Mae gwahanol fathau o rawnwin ar gael a mathau gwahanol o furum: dyma rai o'r ffactorau pwysicaf sy'n rhoi blas ac arogl gwahanol i winoedd. Mae'r gwahaniaethau hyn yn deillio o ddatblygiad biocemegol y grawnwin, yr adweithiau sy'n gysylltiedig ag eplesu, amgylchedd tyfu'r grawnwin (terroir yn y Ffrangeg), a'r broses o gynhyrchu gwin. Mae llawer o wledydd yn diffinio ac yn deddfu ar enwau safonol, cyfreithiol er mwyn cadw'r safon a blas (ac arogl) unigryw gwin yr ardal. Mae'r deddfau hyn fel arfer yn cyfyngu ar yr ardal lle tyfir y gwin a'r mathau o rawnwin a ganiateir yn yr ardaloedd unigol, yn ogystal ag agweddau eraill ar gynhyrchu gwin.

Mae gwin wedi cael ei gynhyrchu ers miloedd o flynyddoedd. Ceir y dystiolaeth gynharaf o greu win o'r wlad a elwir heddiw yn Georgia, a hynny yn 6000 CC. Yn ddiweddarach, datblygwyd 'gwin yr Hen Fyd' ymhellach, gyda thechnegau newydd, ac roedd yn Ewrop tri o'r rhanbarthau cynhyrchu gwin mwyaf. Y pum gwlad cynhyrchu gwin fwyaf poblogaidd yn 2023 oedd yr Eidal, Ffrainc, Sbaen, yr Unol Daleithiau a Chile. Cyrhaeddodd gwin Gymru gyda'r Rhufeiniaid (gweler isod) a cheir yr enw 'Trewyn' (ger Corwen) allan o 'Dre' a 'gwin' h.y. "tre'r gwin".

'Gwindy' yw'r enw ar yr adeilad lle caiff y gwin ei gadw mewn casgenni neu boteli, 'y winwydden' yw'r enw ar y goeden lle tyf y grawnwin a 'gwinllan' yw'r enw ar ddarn o dir lle mae'r coed gwinwydd yn tyfu mewn rhesi. Defnyddiwyd y gair 'gwin' yn gyntaf yn y Gymraeg yn y 10g, mewn llawysgrif (Ox 2) VVB 138, guin, gl. vinum.ac mae'n fenthyciad o'r Lladin 'vīnum', sy'n atgyfnerthu'r cysylltiad gyda'r Rhufeiniaid.

Gwin yng Nghymru

Gwin coch a gwin gwyn
Gwin coch a gwin gwyn
Gwinllan yn Llanboidy, yn Sir Gaerfyrddin.
Gwinllan yn Llanboidy, yn Sir Gaerfyrddin.
Gwinllan Llanerch, ger Caerdydd yng Ngorffennaf 2025
Gwinllan Llanerch, ger Caerdydd yng Ngorffennaf 2025
Ystafell flasu yng Ngwinllan Llanerch, ger Caerdydd yng Ngorffennaf 2025
Ystafell flasu yng Ngwinllan Llanerch, ger Caerdydd yng Ngorffennaf 2025
4 images

Diod tebyg i win yw medd, ond ei fod yn cael ei wneud gyda mêl yn hytrach na grawnwin. Mae medd yn ddiod hynafol iawn gyda chysylltiadau â'r Derwyddon. Ond yn eitha diweddar y daeth y winwydden i Gymru - ni chredir cyrhaeddodd gyda'r Rhufeiniaid mae'n debyg. Bu'r mynachod yn tyfu gwinwydd aqc yn creu gwin yn yr Oesoedd Canol, ac yn y 18g aeth yr Ardalydd Bute ati ar dir Castell Coch i blannu gwinllan. Y tyfwr modern cyntaf oedd y cerddor Dr Idris Thomas a blannodd winllan yn Wern Deg, Llanarth, Ceredigion; ystyrir hon y winllan fodern gyntaf yng Nghymru.

Mae gwin Cymreig wedi’i gofrestru fel Dynodiad Tarddiad Gwarchodedig (PDO) yn yr UE a’r DU. Mae'r term yn cyfeirio at "win a gynhyrchir yng Nghymru o rawnwin a dyfwyd yn yr ardal ddynodedig, gan ddefnyddio dulliau rhagnodedig". Rhaid i'r cynnyrch ddefnyddio grawnwin y winwydden, sy'n tyfu ar uchder o dan 220 metr uwchben lefel y môr. Gellir addurno'r cynnyrch y tu allan i'r ardal ddynodedig ar yr amod ei fod yn agos i Gymru a bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi rhoi caniatâd ymlaen llaw. Rhaid i'r cynnyrch gydymffurfio â chyfyngiadau o ran cynnwys alcohol, asideiddio a melysu.

Ceir hefyd safon arall, sef gwin rhanbarthol Cymreig, sef gwin wedi'i gofrestru fel Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) yn yr UE a'r DU. Mae’r dynodiad wedi’i gyfyngu i win a gynhyrchir gydag o leiaf 85% o’r grawnwin a ddefnyddir yn cael eu cynaeafu yng Nghymru; rhaid iddo gael ei gynhyrchu o fewn Cymru neu ardal a randdirymwyd sy'n cyd-ffinio â'r ffin â Lloegr. Rhaid i'r cynnyrch gydymffurfio â chyfyngiadau o ran cynnwys alcohol, asideiddio a melysu.

Hanes gwin yng Nghymru

Cyrhaeddodd y planhigion cyntaf Caerleon, pan oedd yr hinsawdd yn gynhesach na heddiw. Ond yn 400 OC oerodd yr hinsawdd a dychwelodd y Rhufeiniaid adre. Ond mae rhywfaint o dystiolaeth iddyn nhw blannu gwinllannoedd yma yng Nghymru. Daw'r enw Trewyn a Chaer Drewyn o'r ddau air 'tre a 'gwin', a chredir i'r winwydden gael ei dyfu ar lethrau'r gaer. Ceir llawer o dystiolaeth am win a oedd yn cael ei fewnforio o'r cyfandir.

Yn yr Oesoedd Canol, bu mynachod Urdd y Sistersiaid yn tyfu'r winwydden, gan gynnwys mynachod Abaty Tyndyrn: roedd y Sistersiaid yn deillio o Ffrainc, un o ganolfannau gwinoedd y byd. Dylid cofio, wrth gwrs, am gysylltiad gwin gyda'r eglwys: bara a gwin y cymun. Daeth y cysylltiad hwn I ben, diolch I Harri VIII a diddymu'r mynachlogydd. Trodd llawer o'r uchelwyr at ddiodydd eraill megis port a sheri. Yn y 18g roedd llawer o ddiodydd yn cael eu mewnfori yn anghyfreithlon gan gymunedau Ceredigion, Penrhyn Gŵyr a llawer o lefydd eraill pan oedd smyglo yn ei anterth, gan gynnwys gwin.

Un o bobl cyfoethoca'r byd ar un adeg oedd Ardalydd Bute, a aeth ati i blanu gwinllan ger Tongwynlais a oedd ar dir Castell Coch: y winllan fodern gyntaf, ond cafodd ei chwalu yn y 1940au. Roedd y gwin o'r winllan hon yn cael ei werthu yng Ngwesty'r Angel, Caerdydd. Credir mai'r rhywogaeth gyntaf o'r winwydden a blanwyd yn fasnachol yng Nghymru oedd y Gamay noire a elwir hefyd yn Blaufränkisch, math o win tebyg i Beaujolais (Vitis vinifera). Yn 1964 tyfodd y Dr Idris Thomas winllan yn Wern Deg, Llanarth, Ceredigion, gan gynhyrchu tua 70 potel y flwyddyn ar y dechrau. Roedd hyn yn dilyn arbrawf mewn gwinwyddaeth Gymreig yn Nhrimsaran ger Llanelli gan Granville Lloyd. Erbyn 1977, cafwyd cnwd o 688kg o rawnwin a botelwyd 570 potel. Y mathau o rawnwin a blannwyd ganddo oedd: Seyve-Villard (Seyval Blanc) a Muller Thurgau, gydg ychydig o goed Reichensteiner, Ortega, Perle, Chardonnay a Madeleine Sylvaner.

“

Mae yno flas y cynfyd
Yn aros fel hen win...

("Eifionydd" gan R. Williams-Parry)
”

Heddiw, mae gwinllan 'White Castle', Aberaeron yn tyfu ac yn potelu ei win ei hun ar 12 erw o dir. Yn 1975 plannodd John Bevan Winllan Glyndŵr a cheir Gwinllan Llannerch a gychwynwyd yn 1996, lle cynhelir Gwobrau Gwinoedd Cymru. Ger Caernarfon, ceir Gwinllan Pant Du, sy'n cynhyrchu gwin coch, rhosliw, seidr, dŵr ffynnon, a mêl, ac sydd wedi ennill nifer o wobrau drwy Gymru a gwledydd eraill er enghraif gwin coch Rondo (enw Gwyddonol: Vitis vinifera).

Sefydlwyd Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru yn 2013, i hybu diwydiant gwin Cymru. Erbyn 2025 roedd dros 50 o winllannoedd yng Nghymru, o Fôn i Fynwy; dros 70 hectar.

Gweler hefyd

Read next

In 183 languages

cyAfrikaansAlemannischአማርኛaragonésÆngliscअंगिकाالعربيةܐܪܡܝܐمصرىঅসমীয়াasturianuअवधीazərbaycancaتۆرکجهбашҡортсаBasa BaliBoarischžemaitėškaBikol Centralбеларуская (тарашкевіца)беларускаябългарскиবাংলাbrezhonegbosanskiбуряадcatalàнохчийнCebuanoکوردیčeštinaчӑвашлаdanskDeutschZazakidolnoserbskiडोटेलीΕλληνικάemiliàn e rumagnòlEnglishEsperantoespañoleestieuskaraestremeñuفارسیsuomivõroNa Vosa VakavitiføroysktfrançaisarpetanfurlanFryskGaeilge贛語kriyòl gwiyannenGàidhliggalegoAvañe'ẽ𐌲𐌿𐍄𐌹𐍃𐌺Gaelgעבריתहिन्दीFiji HindihrvatskihornjoserbsceKreyòl ayisyenmagyarհայերենԱրեւմտահայերէնinterlinguaJaku IbanBahasa IndonesiaInterlingueIdoíslenskamedžuslovjanskyitaliano日本語PatoisJawaქართულიQaraqalpaqshaадыгэбзэKabɩyɛқазақшаភាសាខ្មែរ한국어къарачай-малкъарkurdîkernowekкыргызчаLatinaLadinoLëtzebuergeschлаккуLingua Franca NovaLimburgsLigurelombardlietuviųlatviešuमैथिलीMalagasyMinangkabauмакедонскиമലയാളംмонголဘာသာမန်मराठीBahasa MelayuMirandésမြန်မာဘာသာNapulitanoNedersaksiesPlattdüütschनेपालीLi NihaNederlandsnorsk nynorsknorskNouormandoccitanиронਪੰਜਾਬੀPicardPälzischpolskiPiemontèisپنجابیپښتوportuguêsRuna Simiromânăрусскийрусиньскыйсаха тылаsardusicilianuScotsسنڌيdavvisámegiellasrpskohrvatski / српскохрватскиSimple EnglishslovenčinaslovenščinachiShonashqipсрпски / srpskiSundasvenskaKiswahiliślůnskiதமிழ்తెలుగుтоҷикӣไทยTagalogtoki ponaTürkçeтатарча / tatarçachiTumbukaTwiтыва дылئۇيغۇرچە / Uyghurcheукраїнськаاردوoʻzbekcha / ўзбекчаvènetovepsän kel’Tiếng ViệtWest-VlamswalonWinaray吴语მარგალურიייִדישVahcuengh閩南語 / Bân-lâm-gí粵語中文

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article