factograf
CY

Geiser

Geiser
All data from the card 3
Math
ffynnon boeth, ffenomen folcanig, tirffurf folcanig
Freebase
/M/03dtr
Quora
Geysir
Strokkur, geiser yn Ngwlad yr Ia
Strokkur, geiser yn Ngwlad yr Ia

Agoriad ar arwyneb y tir, mewn ardal folcanig fyw, yw geiser, lle mae colofn o ddŵr berwedig yn cael ei hyrddio allan ohono yn ysbeidiol.

Wrth ddod i gysylltiad â chreigiau poeth, mae'r dŵr daear yn ddwfn o dan yr agoriad ac ar waelod y golofn ddŵr yn cyrraedd y berwbwynt cyn y dŵr ym mhen uchaf y golofn. Yna, mae'r swigod sy'n codi tua'r wyneb o'r dŵr berwedig yn peri i'r gwasgedd ar waelod y golofn ostwng, ac mae hyn yn ei dro yn achosi i'r golofn ddŵr yn ei chyfanrwydd draphoethi ac echdorri, gan hyrddio'r golofn o ddŵr berw i'r awyr.

Mae dros fil o eiserau yn bodoli ledled y byd. Mae o leiaf 1,283 geiserau wedi ffrwydro yn Parc Cenedlaethol Yellowstone, Wyoming,Gogledd America.

Read next

In 94 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article