factograf
CY

Ffynnon

Ffynnon
Ffynnon Dyfnog, Llanrhaedr yng Nghinmeirch
Ffynnon Dyfnog, Llanrhaedr yng Nghinmeirch

Tarddiad neu fan lle mae dŵr yn codi o'r ddaear ydy ffynnon; twll yn y ddaear, fel arfer.

Tyfodd rhai trefi yn ystod y 19g o amgylch ffynhonnau iachusol, trefi megis Llandrindod ym Mhowys gan y credir eu bod yn iachusol.

Ffynhonnau seintiau Cymru

Ffynnon Oledd
Ffynnon Oledd
Ffynnon Saint
Ffynnon Saint
Ffynnon Aelrhiw, SH241294
Ffynnon Aelrhiw, SH241294
Ffynnon Shon, ger y Rhobell Fawr (52°48′27.51″ N, 3°49′19.8″ W)
Ffynnon Shon, ger y Rhobell Fawr (52°48′27.51″ N, 3°49′19.8″ W)
Ffynnon Llywelyn, Cilmeri
Ffynnon Llywelyn, Cilmeri
Ffynnon Eidda, rhwng Llan Ffestiniog ac Ysbyty Ifan
Ffynnon Eidda, rhwng Llan Ffestiniog ac Ysbyty Ifan
Dyffryn Ardudwy
Dyffryn Ardudwy
Ffynnon Fair, Nefyn
Ffynnon Fair, Nefyn
Ffynnon Gelynnin, Conwy
Ffynnon Gelynnin, Conwy
Ffynnon ddŵr mewn mynachdy yn yr Almaen
Ffynnon ddŵr mewn mynachdy yn yr Almaen
10 images

Sefydlwyd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn 1996, gyda'r nod o warchod ffynhonnau Cymru sydd â thraddodiadau'n perthyn iddynt neu sydd o bensaernïaeth diddorol. Maent yn cyhoeddi cylchgrawn "Llygad y Ffynnon" ddwywaith y flwyddyn; y golygydd ydy'r awdur Eirlys Gruffydd.

Ers y Canol Oesoedd roedd y ffynhonnau hyn yn denu llawer o bererinion a chleifio atynt i gael eu gwella, ac roedd pob math o ofergoelion ynghlwm a nhw. Ceir dros 1,000 ohonynt yng Nghymru, gyda dros eu hanner wedi'u cysegru i seintiau Cristnogol. Mae llawer o'r ffynhonnau hyn, fodd bynnag, yn dyddio'n ôl i gyfnod cyn-Gristnogol; roedd gan y Celtiaid gryn barch at ddŵr ac roedd ganddynt dduwiau i warchod dyfroedd arbennig.

Mae dros traean o'r 1,000 yn ffynhonnau iachaol a thyrai pobl atynt i yfed y dŵr neu ymdrochi ynddo. Defnyddid rhai ffynhonnau i felltithio neu ddarogan e.e. Ffynnon Eilian (Llan-yn-Rhos, Betws-yn-Rhos) ble arferai pobl dalu i felltithio eu gelynion neu i gael gwared o felltith. Arferid hefyd addurno'r ffynhonnau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.

Ffynhonnau Môn

Ceir tuag ugain o ffynhonnau hanesyddol bwysig ar Ynys Môn. Gweler: Ffynhonnau Môn.

Gwledydd eraill

Llên

Ffynon enwog y Manneken Pis ym Brwsel.
Ffynon enwog y Manneken Pis ym Brwsel.

Ceir chwedl hynafol o'r enw Iarlles y Ffynnon lle ymddengys y Marchog Ddu pob tro mae rhywun yn tywallt ychydig ddŵr ar garreg y ffynnon.

Ffynnon, Melaka, Malaysia.

Read next

In 80 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article