factograf
CY
Sign in

Falcon Heavy

Falcon Heavy

Key facts

uchder70m
enghraifft o'r canlynolmodel o gerbyd
màs1,420,788 kg
All data from the card 7
Enghraifft o:
model o gerbyd
Math
Falcon 9, arch-gerbyd lansio all godi pwysau trwm, cerbyd lansio all godi pwysau trwm
Gwlad
Unol Daleithiau America
Gwneuthurwr
SpaceX
Gwefan
http://spacex.com/falcon-heavy
Freebase
/M/0gl0bgh
Quora
Falcon-heavy
Lansiad cyntaf y Falcon Heavy
Lansiad cyntaf y Falcon Heavy
Falcon Heavy (yn cynnwys manylebau'r Falcon 9 Block 5 ar y pad lansio ym Mehefin 2019
Falcon Heavy (yn cynnwys manylebau'r Falcon 9 Block 5 ar y pad lansio ym Mehefin 2019
2 images

Mae'r Falcon Heavy yn gerbyd lansio trwm iawn i gludo cargo i orbit y Ddaear, a thu hwnt; mae'n roced y gellir ei hailddefnyddiol yn rhannol. Mae wedi'i ddylunio, ei gynhyrchu a'i lansio gan y cwmni awyrofod Americanaidd SpaceX, un o hoff brosiectau'r biliwnydd Elon Musk.

Mae'r roced yn cynnwys silindr craidd canolig, gyda dwy roced Falcon 9 atodol yn sownd ynddi, ac ail ran (uchaf) uwchben y rhain. Gan y Falcon Heavy mae'r ail gapasiti uchaf, o ran y llwyth y gall ei gario, a hynny o unrhyw gerbyd lansio a oedd yn weithredol yn 2023, y tu ôl i System Lansio Gofod NASA (SLS), a'r pedwerydd uchaf o unrhyw roced i gyrraedd orbit erioed, yn llusgo y tu ôl i'r SLS (UDA cyfoes), Energia (Rwsia yn y 1980au) a Sadwrn V (UDA 1960au-70au).

Cynhaliodd SpaceX lansiad cyntaf y Falcon Heavy ar 6 Chwefror 2018, am 20:45 UTC. Fel llwyth dymi, cludwyd yn y roced y car Tesla Roadster a oedd yn perthyn i sylfaenydd SpaceX, Elon Musk, gyda mannequin o'r enw "Starman" yn eistedd yn sedd y gyrrwr. Digwyddodd ail lansiad Falcon Heavy ar 11 Ebrill 2019, a dychwelodd y tair cyfnerthyddion (boosters) yn llwyddiannus i'r Ddaear. Digwyddodd trydydd lansiad Falcon Heavy (eto'n llwyddiannus) ar 25 Mehefin 2019. Ers hynny, mae Falcon Heavy wedi cymryd rhan yn y rhaglen Lansio Gofod Diogelwch Cenedlaethol (NSSL) yr Unol Daleithiau.

Dyluniwyd y Falcon Heavy i allu cludo bodau dynol i'r gofod a thu hwnt i orbit isel y Ddaear, ond erbyn Chwefror 2018 dywedwyd mai Starship fyddai'n cludo pobl ac nid y Falcon Heavy. Felly, disgwylir i Falcon Heavy a Falcon 9 gael eu disodli yn y pen draw gan system lansio Starship, sy'n cael ei datblygu yn Boca Chica, Tecsas.

Hanes

SpaceX yn torri'r dywarchen gyntaf yng Nghanolfan Awyrlu Vandenberg, SLC-4E ym Mehefin 2011 ar gyfer pad lansio Falcon Heavy
SpaceX yn torri'r dywarchen gyntaf yng Nghanolfan Awyrlu Vandenberg, SLC-4E ym Mehefin 2011 ar gyfer pad lansio Falcon Heavy
O'r chwith i'r dde, Falcon 1, Falcon 9 v1.0, tair fersiwn o Falcon 9 v1.1, tair fersiwn o Falcon 9 v1.2 (gyrriant llawn), tair fersiwn o Falcon 9 Block 5, Falcon Heavy a Falcon Heavy Block 5
O'r chwith i'r dde, Falcon 1, Falcon 9 v1.0, tair fersiwn o Falcon 9 v1.1, tair fersiwn o Falcon 9 v1.2 (gyrriant llawn), tair fersiwn o Falcon 9 Block 5, Falcon Heavy a Falcon Heavy Block 5
Dau gyfnerthydd y Falcon Heavy yn glanio ar yr un pryd yn Cape Canaveral - parthau 1 a 2 yn dilyn hedfaniad prawf ar 6 Chwefror 2018
Dau gyfnerthydd y Falcon Heavy yn glanio ar yr un pryd yn Cape Canaveral - parthau 1 a 2 yn dilyn hedfaniad prawf ar 6 Chwefror 2018
3 images

Trafodwyd cysyniadau ar gyfer cerbyd lansio Falcon Heavy gan ddefnyddio tri cyfnerthyddion (boosters) craidd Falcon 1, gyda chapasiti llwyth-i-LEO o tua dwy dunnell, i ddechrau mor gynnar â 2003. Cyfeiriwyd yn 2005 at y cysyniad o ddefnyddio tri cyfnerthydd craidd Falcon 9 y cwmni - roced nad oedd wedi'i hedfan eto.

Datgelodd SpaceX y cynllun ar gyfer y Falcon Heavy i'r cyhoedd mewn cynhadledd newyddion yn Washington, DC, yn Ebrill 2011, a disgwylir taith brawf gychwynnol yn 2013.

Cynhaliwyd yr hediad prawf cyntaf o'r Falcon Heavy ar 6 Chwefror 2018, am 20:45 UTC, gan gario ei lwyth ffug, sef Tesla Roadster personol Elon Musk.

Cyllid

Soniodd Musk am Falcon Heavy am y tro cyntaf mewn datganiad i'r wasg ym Medi 2005, gan gyfeirio at gais cwsmer a gawsant 18 mis ynghynt. Datblygwyd y Falcon Heavy gyda chyfalaf preifat Musk o dros US$500 miliwn. Ni ddarparwyd unrhyw gyllid gan lywodraeth UDA ar gyfer ei ddatblygiad.

Dylunio a datblygu

Mae dyluniad y Falcon Heavy'n seiliedig ar prif rannau ac injans y Falcon 9. Erbyn 2008, roedd SpaceX wedi anelu at lansio'r Falcon 9 cyntaf yn 2009, tra byddai "Falcon 9 Heavy yn dilyn mewn ychydig o flynyddoedd". Wrth siarad yng Nghynhadledd Cymdeithas Mawrth yn 2008, dywedodd Musk ei fod yn disgwyl y byddai cam uchaf tanwydd hydrogen yn dilyn dwy i dair blynedd yn ddiweddarach (hy tua 2013).

Yn 2015, cyhoeddodd SpaceX nifer o newidiadau i roced Falcon Heavy, a gweithiwyd ar yr un pryd i uwchraddio cerbyd lansio Falcon 9 v1.1. Yn Rhagfyr 2016, rhyddhaodd SpaceX lun yn dangos y Falcon Heavy diweddaraf ym mhencadlys y cwmni yn Hawthorne, California.

Yng Ngorffennaf 2017, trafododd Musk yn gyhoeddus yr heriau o brofi cerbyd lansio cymhleth fel y Falcon Heavy tair-roced, gan nodi bod llawer iawn o'r dyluniad newydd "yn wirioneddol amhosibl ei brofi ar y Ddaear" ac mai drwy brofion hedfan gwirioneddol yn unig y gellir ei dreialu.

Erbyn Medi 2017, roedd pob un o'r tri graidd cam cyntaf wedi cwblhau eu profion tân statig ar y Ddaea.

Ar 6 Chwefror 2018, ar ôl oedi o dros ddwy awr oherwydd gwyntoedd cryfion, cododd Falcon Heavy o'r Ddaear am 20:45 UTC. Glaniodd ei cyfnerthyddion ochr yn ddiogel ar Barthau Glanio 1 a 2 ychydig funudau'n ddiweddarach. Fodd bynnag, dim ond un o'r tair injan ar y prif cyfnerthydd canol a daniodd yn ystod y disgyniad, gan achosi i'r cyfnerthydd chwalu'n racs wrth daro'r cefnfor ar gyflymder o dros 480 km/awr (300 m/awr).

Flwyddyn ar ôl yr ehediad demo llwyddiannus hon, roedd SpaceX wedi arwyddo pum cytundeb masnachol gwerth UD$ 500-750 miliwn, sy'n golygu iddyn nhw lwyddo i dalu cost datblygu'r roced. Digwyddodd yr ail hedfaniad, a'r un fasnachol gyntaf, ar 11 Ebrill 2019, gan lansio Arabsat-6A, gyda'r tri cyfnerthyddion yn glanio'n llwyddiannus am y tro cyntaf.

Ailddefnyddio

Gall cystadleuwyr o 2024 ymlaen gynnwys SpaceX Starship (100+ t i LEO), New Glenn Blue Origin (45 t i LEO), Terran R Relativity Space (34 t i LEO), ac United Launch Alliance (ULA) Vulcan Centaur ( 27 t i LEO).

Read next

In 55 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article