Gwefan rwydweithio cymdeithasol yw Facebook. Yn anffurfiol, defnyddir yr enw Gweplyfr arno yn y Gymraeg. Mae'n un o wasanaethau cwmni Meta platforms o Unol Daleithiau America, sydd hefyd yn berchen ar WhatsApp ac Instagram. Ddiwedd 2023, roedd 3.07 biliwn o ddefnyddwyr, gyda 2.11 biliwn o'r rheini'n ei ddefnyddio bob dydd, a hynny am 31 munud ar gyfartaledd.
Hanes
Pan lansiwyd Facebook yn 2004 gan Mark Zuckerberg, roedd aelodaeth wedi ei gyfyngu i fyfyrwyr Prifysgol Harvard, ac yna fe ehangwyd i sawl prifysgol arall yn yr Unol Daleithiau. Yn raddol ehangwyd yr aelodaeth i unrhyw un oedd â chyfeiriad e-bost sefydliad addysgol (.edu,.ac.uk, ac ati) ar draws y byd, ac yn 2006 agorwyd y wefan i unrhyw berson. Mae'r defnyddwyr yn creu pwll o Ffrindiau ac yn danfon gwybodaeth a negeseuon at ei gilydd neu eu gosod ar eu tudalennau. Yn y dyddiau cynnar hynny, roedd yn cystadlu â gwasanaethau eraill megis Bebo a MySpace.
Ym Medi 2012, roedd gan Facebook dros biliwn o ddefnyddwyr, a chredir bod 8.7% o'r rheiny yn rhai ffug.
Achos llys
Yn 2007 aed a Mark Zuckerberg i'r llys gan gwmni ConnectU.com gan honni ei fod wedi dwyn eu syniad nhw am y wefan, ac wedi oedi datblygiad eu gwefan nhw'n fwriadol wrth weithio iddynt yn 2003.
Nodweddion
- Mae'n rhaid cofrestru â Facebook cyn cael mynediad i'r wefan.
- Gellir dewis ymuno â rhwydweithiau a seilir ar leoliad daearyddol (gwladwriaeth, gwlad neu ddinas), sefydliad addysg neu gyflogwr.
Ieithoedd Facebook
Yn 2008 fel rhan o ddatblygiad Facebook ychwanegwyd rhyngwyneb amlieithog o ddewis y defnyddiwr. Ymhlith yr ieithoedd y gellir eu defnyddio mae'r canlynol:
- Cymraeg
- Saesneg
- Sbaeneg
- Catalaneg
- Norwyeg
- Almaeneg
- Tsieceg
- Tsieinëeg
- Daneg
- Ffinneg
- Eidaleg
- Iseldireg
- Pwyleg
- Rwsieg
- Swedeg
- Tyrceg
- Portiwgaleg (Brasil)
- Siapaneg
- Coreg
Preifatrwydd a diogelwch
Cafwyd sawl cwyn am ddiffyg preifatrwydd ar Facebook. Yn 2010, datgelwyd fod nifer o raglenni fel gemau ar Facebook yn hel gwybodaeth bersonol a bod rhai'n eu pasio ymlaen (neu eu gwerthu) i gwmnïau eraill. Roedd hyn yn digwydd hyd yn oed ar ôl i ddefnyddwyr Facebook ddewis lefel diogelwch gwybodaeth uchaf posib. Roedd y wybodaeth a "ffermiwyd" felly'n cynnwys enwau go iawn, cyfeiriadau a gwybodaeth bersonol arall. Ym mis Hydref 2010, ar ôl wynebu bygythiad o gael achos llys yn eu herbyn yn yr Unol Daleithiau, mynnodd Facebook eu bod wedi cymryd camau i atal hynny.